
2019 Rhif 1192 (Cy. 209)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019
Gwnaed 15 Awst 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Awst 2019
Yn dod i ryme 9 Medi 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 ac adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy a phwerau a roddir iddynt o dan adran 5(5)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Medi 2019.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
3 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
4 

(1) Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
5 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
6 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
7 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3(4)—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
8 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019
9 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4(4)—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Awst 2019