
2019 Rhif 1167 (Cy. 204)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019
Gwnaed 24 Gorffennaf 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019 a daw i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei osod.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018
2 

(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 21, hepgorer paragraff (7).
(3) Yn y tabl yn Rhan C o Atodlen 4, ar ôl eitem 10 mewnosoder—“
11. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Quercus L., ac eithrio Quercus suber, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae eu cylchedd 1.2 m uwchlaw coron y gwreiddiau yn 8 cm neu fwy. Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd:
(a) mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle na wyddys bod Thaumetopoea processionea L. yn bresennol;
(b) mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Thaumetopoea processionea L. neu mewn ardal sy’n rhydd rhag Thaumetopoea processionea L., sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag IPSM Rhif 4; neu
(c) mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Thaumetopoea processionea L. ac a arolygwyd ar adegau priodol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Thaumetopoea processionea L.”
Mark Drakeford
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
24 Gorffennaf 2019