
2019 Rhif 1165 (Cy. 203)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 19 Gorffennaf 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“DCE 1972”) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o DCE 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd sy’n cael ei achosi gan wastraff ac atal, lleihau a rheoli gwastraff.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o DCE 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2019/1021 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar lygryddion organig parhaus (ail-lunio) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
2 
Yn lle Atodlen 8 (ffurf ateb y traddodai i’r cynhyrchydd neu’r deiliad/form of consignee’s return to producer or holder) i Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005, rhodder yr Atodlen 8 newydd a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Gorffennaf 2019
SCHEDULE/ATODLEN
Regulation/Rheoliad 2
“
SCHEDULE 8/ATODLEN 8
Form of consignee’s return to producer or holder/Ffurf ateb y traddodai i’r cynhyrchydd neu’r deiliad
Regulation/Rheoliad 54
”