
2019 Rhif 116 (Cy. 30)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni21 Ionawr 2019
Gwnaed 24 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Ionawr 2019
Coming into force in accordance with regulation 1

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 11 o’r Ddeddf honno, a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004
2 
Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004, ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “hysbysiad cyhoeddus”, yn lle’r geiriau o “a gyhoeddir” hyd at y diwedd rhodder “a gyhoeddir, yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, ar wasanaeth e-hysbysu’r DU (fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau hynny)”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2019