
2019 Rhif 1153 (Cy. 202)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2019
Gwnaed 18 Gorffennaf 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym 19 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(1) a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2019 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005
2 
Yn y tabl yn Rhan C o Atodlen 4 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005, yn eitem 7E, yn y cofnod yn y drydedd golofn;
(1) ar ddiwedd paragraff (a) ar ôl yr hanner colon mewnosoder “or”;
(2) ar ddiwedd paragraff (b) ar ôl yr hanner colon mewnosoder “or”;
(3) hepgorer paragraff (c).
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2019