
2019 Rhif 1151 (Cy. 201)
Tai, Cymru
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019
Gwnaed 18 Gorffennaf 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym 1 Medi 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 25 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2019.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019;
 mae i “tenantiaeth fyrddaliadol sicr” yr un ystyr ag “assured shorthold tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988.
Cymhwyso Rhannau 1 i 5 a 7 o’r Ddeddf mewn cysylltiad â thenantiaethau byrddaliadol sicr
3 
Mae Rhannau 1 i 5 a 7 o’r Ddeddf (gan gynnwys adran 20, o’i darllen fel y darperir ar ei chyfer yn y rheoliad hwn) i’w trin fel pe baent yn cael effaith mewn perthynas â thenantiaethau byrddaliadol sicr, ac at y diben hwn—
(a) mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at gontract meddiannaeth safonol i’w darllen fel cyfeiriadau at denantiaeth fyrddaliadol sicr,
(b) mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at ddeiliad contract i’w darllen fel cyfeiriadau at denant o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr,
(c) mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at landlord i’w darllen fel pe bai iddynt yr un ystyr â chyfeiriadau at landlord yn Neddf Tai 1988,
(d) mae adran 20 o’r Ddeddf i’w darllen fel a ganlyn—“
Cyfyngiadau ar derfynu contractau
20. 

(1) Ni chaiff landlord annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth safonol roi hysbysiad o dan is-adran (1)(b) neu (4)(a) o adran 21 o Ddeddf Tai 1988 mewn perthynas â’r annedd ar adeg pan fo—
(a) y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud,
(b) o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac
(c) y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
(2) Ni chaiff landlord annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth safonol roi hysbysiad o dan is-adran (1)(b) neu (4)(a) o adran 21 o Ddeddf Tai 1988 mewn perthynas â’r annedd ar adeg pan fo—
(a) blaendal cadw a dalwyd mewn perthynas â’r contract meddiannaeth safonol heb ei ad-dalu, a
(b) yr amgylchiadau yn golygu bod y methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2.
(3) Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
(a) taliad rhent o dan y denantiaeth;
(b) taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r denantiaeth.”, ac
(e) mae Atodlen 3 o’r Ddeddf i’w thrin fel pe bai wedi ei hepgor.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2019