
2019 Rhif 1150 (Cy. 200) (C. 36)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Cychwyn Rhif 1) 2019
Gwnaed 18 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 30(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Cychwyn Rhif 1) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Medi 2019 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—
(a) adrannau 1 i 19;
(b) adrannau 21 i 29;
(c) Atodlen 1; a
(d) Atodlen 2.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2019