
2019 Rhif 115 (Cy. 29)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni7 Ionawr 2019
Gwnaed 24 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o’r Ddeddf honno a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
RHAN 1 Diwygiad i ddeddfwriaeth sylfaenol
Diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011
2 
Yn Atodlen 2 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (aelodaeth o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol), hepgorer paragraff 1(4)(d).
RHAN 2 Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
3 
Yn Rhan Ch o Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007, hepgorer paragraff 7.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008
4 

(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniadau o “etholiad Senedd Ewrop” (“European Parliamentary election”) ac “etholiad cyffredinol Senedd Ewrop” (“European Parliamentary general election”).
(3) Yn Nhabl 5 (Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001) o Atodlen 4 (cymhwyso, gydag addasiadau, deddfau ac is-ddeddfwriaeth), yn y rhes sy’n darparu ar gyfer addasu Atodlen 3, Ffurf E—
(a) yn lle “Yn lle “European Parliamentary electoral region” rhodder “Referendum voting area…”.” rhodder “Ar ôl “Local government electoral area(s)” mewnosoder “Referendum voting area…”.”;
(b) yn lle “hyd at “electoral region]]”” rhodder “hyd at “electoral area]]””.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2019