
2019 Rhif 1143 (Cy. 198)
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019
Gwnaed 18 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 8(5)(b), 33(1)(b) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Yn unol ag adran 94(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf TGT” yw Deddf Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Diwygio adran 8 o’r Ddeddf TGT
2 
Yn adran 8(4) o’r Ddeddf TGT (gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy), yn y diffiniad o “gwaith adfer”, yn lle “nid yw gwaith i adfer man gwarediadau tirlenwi” rhodder “pan fo man gwarediadau tirlenwi yn cael ei gapio, nid yw gwaith a wneir i adfer y man hwnnw”.
Diwygio adran 32 o’r Ddeddf TGT
3 
Yn adran 32 o’r Ddeddf TGT (ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli), yn is-adran (1)—
(a) ym mharagraff (a), yn lle “sy’n ddeunydd cymwys i gyd;” rhodder—“
(i) sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu
(ii) sy’n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau nad yw’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân;”;
(b) ym mharagraff (d), ar y diwedd mewnosoder “neu warediadau y byddent wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon pe baent yn cael eu gwneud yn awr”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2019