
2019 Rhif 114 (Cy. 28)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni14 Ionawr 2019
Gwnaed 22 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 5 o Reoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 (adran 78A (rhagarweiniol)), ar ôl paragraff (8) mewnosoder—“
(9) Ar ôl is-adran (9) mewnosoder—
(9A) When reading Council Directive 2013/59/Euratom for the purpose of subsection (9), article 4(43) of Council Directive 2013/59/Euratom is to be read as if, for the words “any competent authority”, there were substituted “the enforcing authority”.”"
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2019