
2019 Rhif 1131 (Cy. 196)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 16 Gorffennaf 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym 1 Medi 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Medi 2019.
Diwygio’r Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, hepgorer y ddiffiniadau o “cyfnod sylfaen” a “cyfnod allweddol”.
(3) Yn rheoliad 4, hepgorer paragraff (7).
(4) Yn lle rheoliad 5, rhodder—“
5. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2019–2020, 2020–2021 a 2021–2022 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i—
(a) ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy’n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu
(b) baratoi a chynllunio ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir,mewn perthynas â’r cwricwlwm i’w dysgu yn yr ysgol o ganlyniad i’r darpar newidiadau i’r cwricwlwm i Gymru.
(2) Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na dwy sesiwn ysgol yn nhrydydd tymor pob blwyddyn ysgol.
(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2019