
2019 Rhif 1120 (Cy. 194)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019
Gwnaed 11 Gorffennaf 2019
Yn dod i rym 1 Awst 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 94(1) a 123(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 123(2)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2019.
Gwrthrychau rhagnodedig at ddibenion y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn
2 
Mae unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith wedi ei ragnodi at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o “tyllu’r corff” yn adran 94(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ond dim ond i’r graddau y mae’r diffiniad hwnnw yn gymwys at ddibenion y drosedd yn adran 95 o’r Ddeddf honno (y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn).
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Gorffennaf 2019