
2019 Rhif 1096 (Cy. 193) (C. 32)
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019
Gwnaed 8 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 77(1) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Cychwyn
2 
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar 23 Gorffennaf 2019.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2019