
2019 Rhif 1062 (Cy. 189)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 27 Mehefin 2019
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 27 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 187(2)(f) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2019.
Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 6(4)(c), yn lle “Rhannau 3 i 15” rhodder “Rhannau 2 i 15”;
(b) yn rheoliad 7(3)(c), yn lle “Rhannau 3 i 15” rhodder “Rhannau 2 i 15”;
(c) yn rheoliad 15(2)(d), yn lle “awdurdodau comisiynu” rhodder “gomisiynwyr gwasanaethau”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2019