
2019 Rhif 1042 (Cy. 184)
Pysgodfeydd Môr, CymruCadwraeth Pysgod Môr
Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019
Gwnaed 24 Mehefin 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Mehefin 2019
Yn dod i rym 4 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1), 1(3), 1(4), 1(6), 5(1) a 5(2) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019 a daw i rym ar 4 Gorffennaf 2019.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae erthyglau 3 a 5 yn gymwys o ran parth Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “cragen foch” (“whelk”) yw pysgodyn cragen o’r rhywogaeth Buccinum undatum;
 ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu sy’n eiddo’n gyfan gwbl i bersonau sy’n gymwys i fod yn berchen ar longau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o’r Ddeddf;
 mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
 ystyr “maint lleiaf penodedig” (“specified minimum size”) yw—
(i) 55 o filimetrau cyn 4 Gorffennaf 2020; a
(ii) 65 o filimetrau ar 4 Gorffennaf 2020 ac ar ôl hynny; ac
 mae i “parth Cymru” (“Welsh zone”) yr ystyr a roddir yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gwahardd pysgota am gregyn moch penodedig
3 
Mae cychod pysgota Prydeinig wedi eu gwahardd rhag pysgota am gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig.
Gwahardd glanio cregyn moch penodedig
4 
At ddibenion adran 1(1) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd glanio unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw) rhagnodir mai’r maint lleiaf ar gyfer cregyn moch yw’r maint lleiaf penodedig.
Gwahardd cludo cregyn moch penodedig
5 
At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo ar gychod pysgota penodedig unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), mae cychod pysgota Prydeinig wedi eu gwahardd rhag cludo unrhyw gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig.
Mesur cregyn moch
6 
At ddibenion erthyglau 3, 4 a 5, mae maint cragen foch i’w fesur yn unol â pharagraff 7 o Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer gwarchod a rheoli adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn diogelu pysgod ifanc organebau môr.
Dirymu a Diwygio
7 

(1) Mae Is-ddeddf 11 (Cregyn Moch – Maint Lleiaf) Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gynt wedi ei dirymu.
(2) Yn Is-ddeddf 19 (Meintiau Pysgod Penodedig) Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gynt, yn y Tabl sy’n pennu maint lleiaf pysgod cregyn, dileer y rhes sy’n ymwneud â Chregyn Moch.
(3) Yng Ngorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010, yn y Tabl yn Atodlen 3, dileer y rhes sy’n ymwneud ag Is-ddeddf 11.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2019