
2019 Rhif 1039 (Cy. 182)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
Gwnaed 20 Mehefin 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Mehefin 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 ENWI A CHYCHWYN
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
RHAN 2 DIWYGIADAU
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
Diwygiad i reoliad 16
3 
Yn rheoliad 16(1)(b)(iii) (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs), ar ôl “gwladolyn UE” mewnosoder “, person a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a)(ii) o Atodlen 2 neu berson sy’n gymwys ac eithrio fel aelod o deulu o dan baragraff 8(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 8(1A) o’r Atodlen honno”.
Diwygiadau i Atodlen 2
4 

(1) Mae Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(2)(d) (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(3) Ym mharagraff 6 (categori 6 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a) yn is-baragraffau (1)(b) a (2)(b), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(b) yn is-baragraffau (3) a (4), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd.
(4) Ym mharagraff 7(1)(d) ac (e) (categori 7 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(5) Ym mharagraff 8 (categori 8 – gwladolion UE)—
(a) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—“
(a) sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i) yn wladolyn UE,
(ii) yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu
(iii) yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),”;
(b) yn is-baragraff (1)(c) a (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(c) ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.”;
(d) yn is-baragraff (2)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;
(e) yn is-baragraff (2)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;
(f) yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”
(6) Yn lle paragraff 9 (categori 9 – plant gwladolion Swisaidd) rhodder—“
Categori 9 – Plant gwladolion Swisaidd
9. 

(1) Person—
(a) sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d) mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.”
(7) Ym mharagraff 10(1)(c) (categori 10 – plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.
(8) Ym mharagraff 11 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—
(a) ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(b) yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.
Diwygiadau i Atodlen 3
5 

(1) Mae Atodlen 3 (cyfrifo incwm) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(1) (myfyrwyr cymwys annibynnol), yn Achos 6, o flaen “Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar a’r”.
(3) Ym mharagraff 9 (incwm trethadwy)—
(a) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”;
(b) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—
(a) y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu
(b) mwy nag un Aelod-wladwriaeth,
yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.”
(4) Yn y paragraffau a ganlyn, yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth”—
(a) paragraff 11 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys), Didyniad B;
(b) paragraff 15 (didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys), Didyniad A;
(c) paragraff 18 (trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwm), ym mhob lle y mae’n digwydd;
(d) paragraff 19(1) (incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterling).
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
20 Mehefin 2019