
2019 Rhif 1018 (Cy. 178)
Caffael Tir, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019
Gwnaed 11 Mehefin 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Mehefin 2019
Yn dod i rym 5 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2019 a daw i rym ar 5 Gorffennaf 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Terfyn gwerth blynyddol
2 
£36,000 yw’r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Dirymu
3 
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2019