
2018 Rhif 969 (Cy. 196)
Ynni, Cymru
Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018
Gwnaed 4 Medi 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Medi 2018
Yn dod i rym 1 Hydref 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 4 o Ddeddf Petrolewm 1998 ac adrannau 188 a 192 o Ddeddf Ynni 2004 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ffioedd) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 1 Hydref 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “atal ffynnon dros dro” (“well suspension”) yw atal defnyddio ffynnon dros dro fel y gellir ei hailddefnyddio at ddiben drilio neu waith arall;
 ystyr “cynnig ardal ddatblygu” (“development area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio’r lleoliadau daearyddol o fewn maes petrolewm pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gwaith datblygu a chynhyrchu gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, cynllun sy’n nodi’r gweithgareddau i’w gwneud;
 ystyr “cynnig ardal gadw” (“retention area proposal”) yw cynnig a gyflwynir yn unol â thrwydded datblygu a fforio petrolewm sy’n diffinio lleoliadau daearyddol pan fo’r trwyddedai yn cynnig gwneud gweithgareddau fforio a gwerthuso;
 mae “ffynnon” (“well”) yn cynnwys twll turio;
 ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sydd wedi ei benodi’n weithredwr gosod, yn weithredwr ffynnon neu’r ddau;
 ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu’n ysgrifenedig;
 ystyr “rhaglen ddatblygu a chynhyrchu” (“development and production programme”) yw rhaglen a gyflwynir yn unol â thrwydded petrolewm sy’n nodi’r mesurau y cynigir eu cymryd mewn cysylltiad â datblygu a chynhyrchu maes petrolewm;
 ystyr “rhaglen waith” (“work programme”) yw rhaglen sydd wedi ei nodi mewn atodlen i drwydded petrolewm sy’n nodi’r archwiliadau sydd i’w cynnal yn ystod y tymor cychwynnol, gan gynnwys unrhyw arolwg daearegol drwy unrhyw ddull ffisegol neu gemegol ac unrhyw brofion drilio;
 ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Petrolewm (Ceisiadau) 2015;
 mae i “trwydded datblygu a fforio petrolewm” yr ystyr a roddir i “petroleum exploration and development licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
 mae i “trwydded draenio methan” yr ystyr a roddir i “methane drainage licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
 mae i “trwydded fforio petrolewm tua’r tir” yr ystyr a roddir i “landward petroleum exploration licence” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2015;
 ystyr “trwydded petrolewm” (“petroleum licence”) yw trwydded a roddir o dan adran 3 o Ddeddf Petrolewm 1998 (chwilio am betrolewm, ei durio a chael gafael arno) neu o dan adran 2 o Ddeddf Petrolewm (Cynhyrchu) 1934 (trwyddedau i chwilio am betrolewm a chael gafael arno); ac
 ystyr “trwyddedai” (“licensee”) yw deiliad trwydded petrolewm.
Y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer cais am drwydded petrolewm
3 
Rhaid i berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded petrolewm a restrir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 dalu’r ffi gyfatebol yn ail golofn y tabl hwnnw.

Tabl 1
Math o drwydded Y ffi sy’n daladwy
Trwydded fforio petrolewm tua’r tir £500
Trwydded draenio methan £50
Trwydded datblygu a fforio petrolewm £1,400
Ffi am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu
4 

(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer rhaglen ddatblygu a chynhyrchu dalu ffi.
(2) Mae swm y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) yn cael ei bennu gan y fformiwla—£595×A×Bpan fo—
 A yn nifer y diwrnodau; a
 B yn nifer y swyddogion
 sy’n ofynnol er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch y cais.
(3) Rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “swyddog” (“officer”) yw person a gymerir ymlaen gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan, i gyflawni’r swyddogaeth y mae’r ffi berthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hi.
Y ffi sy’n daladwy am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu gynnig ardal ddatblygu
5 

(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer cynnig ardal gadw neu gynnig ardal ddatblygu dalu ffi o £1068 os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad.
(2) Rhaid talu’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
Ffioedd penodedig sy’n daladwy am gydsyniadau eraill
6 

(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am gydsyniad ar gyfer gweithgaredd neu fater a restrir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 dalu’r ffi gyfatebol yn ail golofn y tabl hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) ar adeg gwneud y cais, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(3) Mewn perthynas â’r gweithgareddau a restrir ym mharagraff (4), rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
(4) Mae’r gweithgareddau fel a ganlyn—
(a) cais am gydsyniad i estyn tymor cychwynnol, ail dymor neu dymor terfynol trwydded petrolewm;
(b) cais am gydsyniad i ddiwygio rhaglen waith.

Tabl 2
Gweithgaredd neu fater y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer Y ffi sy’n daladwy
Drilio prif ffynnon £729
Drilio ffynnon ddargyfeirio sy’n fforchio o’r brif ffynnon i leoliad targed gwahanol i’r brif ffynnon £596
Gosod neu ailosod offer mewn ffynnon at ddiben galluogi cynhyrchu neu chwistrellu hydrocarbon £566
Cael gafael ar betrolewm o ardal drwyddedig £1,052
Newid cydsyniad er mwyn cael gafael ar betrolewm o ardal drwyddedig £1,052
Llosgi neu awyru petrolewm o ffynnon £765
Newid cydsyniad i losgi neu awyru petrolewm o ffynnon £765
Atal ffynnon dros dro £596
Ailddechrau defnyddio unrhyw ffynnon sydd wedi ei hatal dros dro £566
Cefnu ar ffynnon yn barhaol £566
Newid trwyddedai trwydded petrolewm £401
Newid y buddiolwr hawliau a roddir gan drwydded petrolewm £401
Penodi gweithredwr o dan drwydded petrolewm £1,201
Estyn tymor cychwynnol, ail dymor neu dymor terfynol trwydded petrolewm £1,000
Diwygio rhaglen waith £1,000
Y ffi sy’n daladwy er mwyn pennu maes olew
7 

(1) Rhaid i drwyddedai sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru am benderfyniad o dan Atodlen 1 i Ddeddf Trethu Olew 1975 (pennu meysydd olew) dalu ffi o £1,124.
(2) Rhaid i’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) gael ei thalu o fewn 30 diwrnod i’r adeg y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai am y penderfyniad ynghylch y cais oni bai bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r trwyddedai y caniateir i’r ffi gael ei thalu ar ddyddiad diweddarach.
Talu ffioedd
8 

(1) Rhaid i ffi sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn gael ei thalu yn y fath fodd ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei bennu.
(2) Nid yw ffi wedi ei thalu o dan y Rheoliadau hyn hyd nes bod Gweinidogion Cymru wedi cael swm cyfan y ffi mewn arian cliriedig.
(3) Mae ffi sy’n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn yn adferadwy fel dyled sifil.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Medi 2018