
2018 Rhif 913 (Cy. 179)
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 30 Gorffennaf 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Awst 2018
Yn dod i rym 6 Medi 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Medi 2018.
Diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012
2 
Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1), cyn y diffiniad o “Rheoliad 10/2011” mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “Rheoliad 2018/213” (“Regulation 2018/213”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/213 ar y defnydd o bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 o ran y defnydd o’r sylwedd hwnnw mewn deunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd;”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “neu Reoliad 10/2011” rhodder “, Rheoliad 10/2011 neu Reoliad 2018/213”.
4 
Yn rheoliad 14(1) (troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011), yn lle “ac Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/831,” rhodder “, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/831 ac Erthygl 6 o Reoliad 2018/213,”.
5 
Ar ôl rheoliad 17 (awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/2005) mewnosoder—“
RHAN 7A Y gofynion ar gyfer bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd
Dehongli Rhan 7A
17A. 
Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2018/213.
Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 2018/213
17B. 
Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 6, mae unrhyw berson sy’n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 2 yn euog o drosedd.
Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 2018/213
17C. 
Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 4(3) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd a phob awdurdod bwyd yn ei ardal.”
6 
Yn rheoliad 19 (troseddau a chosbau)—
(a) ym mharagraff (2), ar ôl “Rheoliad 10/2011” mewnosoder “, Rheoliad 2018/213”;
(b) ym mharagraff (5)(a), yn lle “neu 16(4)” rhodder “16(4) neu 17B”.
7 
Yn rheoliad 24(2) (amddiffyniadau cyffredinol), ar ôl “16(4)” mewnosoder “, 17B”.
8 
Yn rheoliad 27(1)(a) (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau’r Ddeddf)—
(a) ar ddiwedd paragraff (iv), hepgorer “a”;
(b) ar ôl paragraff (v), mewnosoder—“
(vi) Erthygl 4 o Reoliad 2018/213; a”.
9 
Yn Atodlen 2, yn Rhan 1 (addasu adran 10(1)), yn adran 10(1A) fel y’i cymhwysir—
(a) ar ddiwedd paragraff (d), hepgorer “and”;
(b) ar ddiwedd paragraff (e), yn lle “.” rhodder “; and”;
(c) ar ôl paragraff (e), mewnosoder—“
(f) Article 4 of Regulation 2018/213.”
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Gorffennaf 2018