
2018 Rhif 91 (Cy. 22)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 22 Ionawr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ionawr 2018
Yn dod i rym 14 Mawrth 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 39 a 58(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 39(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yng Nghymru y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff hynny o gyfrifwyr y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mawrth 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 neu ar ôl hynny.
Diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014
2 
Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a nodir yn y rheoliadau a ganlyn.
Dehongli
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), hepgorer y diffiniad o “hysbysiad drwy hysbyseb” (“notice by advertisement”).
Datganiad o gyfrifon
4 
Yn rheoliad 8(1)(c) (datganiad o gyfrifon) ar ôl “hwy” mewnosoder “, ac eithrio cyfrifon ar gyfer cronfeydd pensiwn a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013”.
Llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiad o gyfrifon – cyrff perthnasol mwy
5 

(1) Yn rheoliad 10 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiad o gyfrifon)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “30 Mehefin” rhodder “31 Mai”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “30 Medi” rhodder “31 Gorffennaf”.
(2) Ar ôl rheoliad 10 mewnosoder—“
Addasiadau ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018
10A. 
Mewn perthynas â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018, mae rheoliad 10 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) mae paragraff (1) i’w ddarllen fel petai “30 Mehefin” wedi ei roi yn lle “31 Mai”;
(b) mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “30 Medi” wedi ei roi yn lle “31 Gorffennaf”.
Addasiadau ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ar gyfer y blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020
10B. 

(1) Mae’r addasiadau a nodir yn y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â chyfrifon cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(2) Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020 mae rheoliad 10 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) mae paragraff (1) i’w ddarllen fel petai “15 Mehefin” wedi ei roi yn lle “31 Mai”;
(b) mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “15 Medi” wedi ei roi yn lle “31 Gorffennaf”.”
Hysbysiad o hawliau cyhoeddus
6 
Yn rheoliad 12(1) (hysbysiad o hawliau cyhoeddus), yn lle “hysbysu drwy hysbyseb ac ar ei wefan am” rhodder “arddangos ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ei ardal, hysbysiad sy’n cynnwys”.
Hysbysiad o orffen yr archwiliad
7 
Yn rheoliad 13 (hysbysiad o orffen yr archwiliad), yn lle “hysbysu drwy hysbyseb ac ar ei wefan” rhodder “arddangos ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ei ardal, hysbysiad”.
Llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau cyfrifyddu – cyrff perthnasol llai
8 

(1) Yn rheoliad 15(5)(b) (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau cyfrifyddu), yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.
(2) Ar ôl rheoliad 15 (llofnodi, cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau cyfrifyddu) mewnosoder—“
Addasiadau ar gyfer pwyllgorau cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol
15A. 

(1) Mae’r addasiadau a nodir yn y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â chyfrifon pwyllgor i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (gan gynnwys cyd-bwyllgor).
(2) Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 a 31 Mawrth 2020, mae rheoliad 15 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “15 Mehefin” wedi ei roi yn lle “30 Mehefin”;
(b) mae paragraff (5) i’w ddarllen fel petai “15 Medi” wedi ei roi yn lle “30 Medi”.
(3) Mewn perthynas â’r blynyddoedd sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 neu ar ôl hynny, mae rheoliad 15 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) mae paragraff (2) i’w ddarllen fel petai “31 Mai” wedi ei roi yn lle “30 Mehefin”;
(b) mae paragraff (5) i’w ddarllen fel petai “31 Gorffennaf” wedi ei roi yn lle “30 Medi”.”
Hysbysiad o hawliau cyhoeddus
9 
Yn rheoliad 17(1) (hysbysiad o hawliau cyhoeddus) yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.
Hysbysiad o orffen yr archwiliad
10 
Yn rheoliad 18 (hysbysiad o orffen yr archwiliad) yn lle “lle neu leoedd amlwg” rhodder “o leiaf un lle amlwg”.
Archwiliad eithriadol
11 
Yn rheoliad 28 (archwiliad eithriadol), yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Pan fydd Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan adran 37 o Ddeddf 2004, yn cynnal archwiliad eithriadol o gyfrifon corff perthnasol, rhaid i’r corff arddangos hysbysiad ar ei wefan ac mewn o leiaf un lle amlwg yn ardal y corff, ynghylch hawl unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi i wrthwynebu unrhyw un neu ragor o’r cyfrifon hynny.”
Alun Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2018