
2018 Rhif 883 (Cy. 172) (C. 69)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Dadreoleiddio 2015 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2018
Gwnaed 18 Gorffennaf 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 115(4) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dadreoleiddio 2015 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2018.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Medi 2018
2 
Y diwrnod penodedig i Ran 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 ddod i rym yw 21 Medi 2018.
Eluned Morgan
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2018