
2018 Rhif 862 (Cy. 169)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 17 Gorffennaf 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Gorffennaf 2018
Yn dod i rym 9 Awst 2018
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2(2) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 a chan baragraff 4 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Awst 2018.
Diwygio
2 
Mae Atodlen 2 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn Rhan 1—
(i) yn lle paragraff 1 rhodder—“
1. 
Yr Undeb Addysg Cenedlaethol.”; a
(ii) hepgorer paragraff 7; a
(b) yn Rhan 2, ar ôl paragraff 27 mewnosoder—“
28. 
Council for Wales of Voluntary Youth Services Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.
29. 
Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru.
30. 
National Training Federation for Wales Ltd.
31. 
Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru.”
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2018