
2018 Rhif 814 (Cy. 165)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Gwnaed 3 Gorffennaf 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Gorffennaf 2018
Yn dod i rym 30 Gorffennaf 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 ac adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy( ) a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(2)(b), 5(5)(b), 55(2) ac 58(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015( ) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
RHAN 1 ENWI A CHYCHWYN
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Gorffennaf 2018.
RHAN 2 DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 20.
3 
Yn rheoliad 14 (y cyfnod cymhwystra hwyaf – benthyciadau at ffioedd dysgu a grantiau ar gyfer myfyrwyr newydd), ym mharagraff (2)—
(a) yn lle “, grant myfyriwr anabl,” rhodder “neu”; a
(b) hepgorer “neu grant ar gyfer dibynyddion”.
4 
Yn rheoliad 16 (y cyfnod cymhwystra hwyaf – benthyciadau at ffioedd dysgu a grantiau i fyfyrwyr penodol sy’n parhau â’u hastudiaethau)—
(a) yn lle paragraff (1)(b)(i) rhodder—“
(i) sydd wedi cwblhau cwrs perthnasol (y “cwrs rhagarweiniol”),”;
(b) ym mharagraff (1)(c)(i), ar ôl “cwrs gradd sylfaen llawnamser” mewnosoder “neu gwrs gradd arferol”;
(c) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle “, grant myfyriwr anabl,” rhodder “neu”;
(ii) hepgorer “neu grant ar gyfer dibynyddion”; a
(d) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Ym mharagraff (1)(b)(i), ystyr “cwrs perthnasol” yw cwrs llawnamser ar gyfer—
(a) y Diploma Addysg Uwch,
(b) y Dystysgrif Addysg Uwch, neu
(c) Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch naill ai’r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau’r Alban.”
5 
Ar ôl rheoliad 22 (ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i ben) mewnosoder—“
Personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben
22A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys Categori 2A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii) ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii) ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i) P, neu
(ii) y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys Categori 2A,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
6 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 30, ym mharagraff (4), ar ôl “unrhyw fenthyciad cynhaliaeth” yn lle “a” rhodder “neu”.
7 
Ar ôl rheoliad 34 (penderfyniad Gweinidogion Cymru ar gais) mewnosoder—“
34A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan fo person (“P”) yn gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliad 32,
(b) pan na fo unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth a ddarparwyd gan P yn y cais, neu mewn cysylltiad ag ef, yn sylweddol anghywir, ac
(c) pan fo P yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 34(5) sy’n datgan yn anghywir fod P yn fyfyriwr cymwys.
(2) Er bod yr hysbysiad yn datgan yn anghywir fod P yn fyfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn, drin P fel pe bai’n fyfyriwr cymwys.”
8 
Yn rheoliad 40 (swm benthyciad at ffioedd dysgu)—
(a) ym mharagraff (3)—
(i) ar ddiwedd Categori 1 yn lle “neu 5” rhodder “, 5 neu 6”;
(ii) yng Nghategori 4, hepgorer “, gan gynnwys myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban”; a
(iii) ar ôl Categori 5 mewnosoder—“
Categori 6Myfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus ar gwrs llawnamser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.”;
(b) yn Nhabl 2 o baragraff (3)—
(i) hepgorer y geiriau “a’r Alban” o’r 14eg res yng ngholofn 4 (lleoliad y darparwr cwrs);
(ii) mewnosoder y geiriau “Yr Alban a” cyn y geiriau “Gogledd Iwerddon” yn y 15fed res yng ngholofn 4; a
(iii) ar y diwedd mewnosoder—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 6 Darparwr arferol Cymru £1,350
Lloegr a’r Alban £1,385”
9 
Yn rheoliad 47 (swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), ym mharagraff (4), yn lle “fwy na £59,200” rhodder “£59,200 neu ragor”.
10 
Yn rheoliad 54 (amodau cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth), hepgorer Eithriad 5.
11 
Yn rheoliad 65 (grant at deithio ar gyfer myfyrwyr meddygol), ym mharagraff (3)—
(a) yn lle “£59,200 neu lai” rhodder “llai na £59,200”; a
(b) yn lle “fwy na £59,200” rhodder “£59,200 neu ragor”.
12 
Yn rheoliad 66 (grant at deithio ar gyfer astudio neu weithio dramor), ym mharagraff (2)—
(a) yn lle “£59,200 neu lai” rhodder “llai na £59,200”; a
(b) yn lle “fwy na £59,200” rhodder “£59,200 neu ragor”.
13 
Yn rheoliad 80 (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)—
(a) ym mharagraff (2), is-baragraff (b)(i), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”;
(b) ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder—“
 “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”)”.
14 
Yn rheoliad 81 (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd), paragraff (3), is-baragraff (b)(i), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
15 
Yn Atodlen 1, paragraff 6(1), yn y diffiniad o “perthynas agos” ar ôl paragraff (c) mewnosoder—“
(d) plentyn P, pan fo P yn ddibynnol ar y plentyn hwnnw;”.
16 
Yn Atodlen 2—
(a) ar ôl paragraff 2 (categori 2 – ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—“
Categori 2A - Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd
2A. 

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) 
(i) sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) 
(i) sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,
(b) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a) ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (“leave application date”) yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo,
(b) ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
(i) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo, a
(ii) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person.”;
(b) ym mharagraff 3 (categori 3 – personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—
(i) yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,”;
(ii) yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—“
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,”;
(iii) yn lle is-baragraff (4)(a) a (b) rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,
(iii) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo,
(iv) wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,”; a
(iv) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”; ac
(c) ym mharagraff 11, yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”.
17 
Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 2(2), yn lle “sefydliad addysgol cydnabyddedig”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus”;
(b) ar ôl paragraff 12 mewnosoder—“
Personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben
12A. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i) ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii) mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b) pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i) P, neu
(ii) y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys Categori 2A,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.”;
(c) ym mharagraff 14, is-baragraff (3)(b)(i), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”; a
(d) ym mharagraff 14, is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder—“
 “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);”.
18 
Yn Atodlen 4 yn y testun Cymraeg—
(a) ym mharagraff 2(2)(c), hepgorer “gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru”; a
(b) ym mharagraff 9(c), yn lle “yn dod yn fyfyriwr cymwys” rhodder “hefyd yn cymhwyso i gael cymorth”.
19 
Yn Atodlen 5, paragraff 4—
(a) yn is-baragraff (2)(a), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”;
(b) yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder—“
 “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);”.
20 
Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), Tabl 16, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” Atodlen 2, paragraff 2A(4)
“rheolau mewnfudo” Atodlen 2, paragraff 11
RHAN 3 DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017
21 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 22 i 38.
22 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “aelod o’r lluoedd arfog” (“member of the armed forces”) yw aelod o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron;”;“
 ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”;“
 ystyr “perthynas agos” (“close relative”) (mewn perthynas â pherson (“P”)) yw—
(a) priod neu bartner sifil P;
(b) person sy’n byw fel arfer gyda P fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil i P;
(c) rhiant P, pan fo P o dan 25 oed;
(d) plentyn P, pan fo P yn ddibynnol ar y plentyn hwnnw;”; ac“
 ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”; a
(b) yn lle paragraffau (a) a (b) yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv) wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”.
23 
Yn rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys)—
(a) ar ôl paragraff (9) mewnosoder—“
(9A) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson—
(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu
(ii) yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,
bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(b) ym mharagraff (11) yn lle “paragraffau (9) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A) a (10)”.
24 
Yn rheoliad 6 (cyfnod cymhwystra)—
(a) ym mharagraffau (8) ac (11), yn lle “neu grant at gostau byw” rhodder “, grant at deithio, grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig”;
(b) ym mharagraff (10)—
(i) yn is-baragraff (b)(i), yn lle “neu 3” rhodder “, 3 neu 4”; a
(ii) yn lle is-baragraff (c)(i) rhodder—“
(i) sydd wedi cwblhau cwrs gradd sylfaen llawnamser neu gwrs gradd arferol;”.
25 
Yn rheoliad 13 (cymorth at ffioedd yn gyffredinol)—
(a) ym mharagraff (5), ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;
(b) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(5A) Nid yw paragraff (5) yn gymwys pan—
(a) bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b) na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c) na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.”; ac
(c) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) Ond nid yw paragraff (6) yn gymwys pan fo’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y myfyriwr neu berthynas agos i’r myfyriwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.”
26 
Yn rheoliad 15 (digwyddiadau), paragraff (b), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
27 
Yn rheoliad 23 (amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw), paragraff (12)(b), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
28 
Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)—
(a) ym mharagraff (4), ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4A),”;
(b) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan—
(a) bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b) na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c) na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.”; ac
(c) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(5A) Ond nid yw paragraff (5) yn gymwys pan fo’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y myfyriwr neu berthynas agos i’r myfyriwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.”
29 
Yn rheoliad 41 (amodau’r hawl i gael benthyciadau at gostau byw), hepgorer paragraff (4).
30 
Yn rheoliad 49 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd), paragraff (2)(b), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
31 
Yn rheoliad 64 (myfyrwyr dysgu o bell cymwys)—
(a) ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(10A) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(b) ym mharagraff (12), yn lle “paragraffau (10) ac (11)” rhodder “paragraffau (10), (10A) ac (11)”.
32 
Yn rheoliad 65 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ym mharagraff (4)(b) ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
33 
Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—
(a) ar ôl paragraff (9) mewnosoder—“
(9A) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(b) ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A) a (10)”;
(c) ar ôl paragraff (14) mewnosoder—“
(14A) Ond nid yw paragraff (14) yn gymwys i gymorth o dan reoliadau 85 i 88 pan—
(a) bo’r myfyriwr (“M”) neu berthynas agos i M yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b) na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c) na fo M yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod M neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.”; a
(d) ar ôl paragraff (15) mewnosoder—“
(15A) Ond nid yw paragraff (15) yn gymwys i gymorth o dan reoliadau 85 i 88 pan fo’r myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod y myfyriwr neu berthynas agos i’r myfyriwr yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.”
34 
Yn rheoliad 82 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ym mharagraff (4)(b), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
35 
Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—
(a) ar ôl paragraff (11) mewnosoder—“
(11A) Os bydd—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â’r hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(b) ym mharagraff (12)(a), yn lle “ffoadur” rhodder “berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn y ddau le y mae’n digwydd.
36 
Yn rheoliad 111 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd), ym mharagraff (2)(b), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
37 
Yn Atodlen 1—
(a) ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—“
Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd
4A. 

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) 
(i) y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) 
(i) y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(b) ym mharagraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—
(i) yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”;
(ii) yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—“
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii) yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”; a
(iv) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
38 
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6(a), ar ôl “yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
Rhan 4 Diwygiadau sy’n ymwneud â statws mewnfudo myfyrwyr
Diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007
39 
Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 40 ac 41.
40 
Yn rheoliad 5 (dyfarniadau gan awdurdodau lleol), ym mharagraff (1)—
(a) yn is-baragraff (b), yn lle “o fewn paragraff 5” rhodder “o fewn paragraffau 4A a 5”;
(b) yn is-baragraff (c), yn lle “o fewn paragraffau 5 a 9” rhodder “o fewn paragraffau 4A, 5 a 9.”
41 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1—
(i) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”; ac“
 ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(ii) yn lle’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” rhodder—“
 ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“P”)—
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv) wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;
(b) nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;”;
(b) ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—“
Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd
4A. 

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) 
(i) y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) 
(i) y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(c) ym mharagraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu)—
(i) yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac”;
(ii) yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—“
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii) yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac”; a
(iv) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014
42 
Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 43 i 45.
43 
Yn rheoliad 3—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”; ac“
 ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(b) yn lle paragraffau (a) a (b) yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv) wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”.
44 
Yn rheoliad 6 (myfyrwyr cymwys), ar ôl paragraff (9) mewnosoder—“
(9A) Pan fo—
(a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b) y cyfnod a ganiateir i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw gais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
45 
Yn Atodlen 1—
(a) ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid) mewnosoder—“
Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd
4A. 

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) 
(i) y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) 
(i) y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(b) ym mharagraff 5—
(i) yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”;
(ii) yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—“
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii) yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”; a
(iv) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
Diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015
46 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 47 i 49.
47 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017;”; ac“
 ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018;”;
(b) yn y diffiniad o “cwrs penben”, ar ôl “Reoliadau 2015” mewnosoder “ neu reoliad 2(1) o Reoliadau 2017”;
(c) yn y diffiniad o “cwrs blaenorol”, ar ôl “Reoliadau 2015” mewnosoder “, cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2017”; a
(d) yn lle’r diffiniad o “cwrs sengl” rhodder—“
 ystyr “cwrs sengl” (“single course”) yw cwrs—
(a) y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2015 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw;
(b) y mae rheoliad 5(6) o Reoliadau 2017 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn y rheoliad hwnnw; neu
(c) y mae rheoliad 6(4) o Reoliadau 2018 yn gymwys iddo ac sy’n dod o fewn y disgrifiad o gwrs yn rheoliad 6(3) o Reoliadau 2018.”
48 
Yn rheoliad 4 (disgrifiad rhagnodedig o berson cymhwysol), yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae person cymhwysol a ragnodir at ddibenion adran 5(5) o Ddeddf 2015 yn berson sy’n dod o fewn yr Atodlen ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd, ac eithrio—
(a) person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2015 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;
(b) person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2017 oherwydd rheoliad 4(3)(c), (d), (e) neu (f) o’r Rheoliadau hynny;
(c) person nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2018 oherwydd ei fod yn berson y mae Eithriad 3, paragraff (a), Eithriad 4, Eithriad 5 neu Eithriad 6 a restrir yn rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo; neu
(d) person a grybwyllir ym mharagraffau (2), (3), neu (8).”
49 
Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 1(1)—
(i) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”; ac“
 ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(ii) yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv) wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”; a
(b) ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teulu) mewnosoder—“
Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teulu
4A. 

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) 
(i) y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) 
(i) y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(c) ym mharagraff 5 (personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teulu)—
(i) yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; ac”;
(ii) yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—“
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii) yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros; a”; a
(iv) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017
50 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 51 i 53.
51 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
(a) y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person;”; ac“
 ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;”;
(b) yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv) wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”.
52 
Yn rheoliad 8 (digwyddiadau), ym mharagraff (b), ar ôl “yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n” mewnosoder “dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n”.
53 
Yn Atodlen 1—
(a) ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—“
Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd
4A. 

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) 
(i) y’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn blwyddyn gyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) 
(i) y’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;
(b) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;
(c) sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo.”;
(b) ym mharagraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—
(i) yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”;
(ii) yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—“
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(iii) yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”; a
(iv) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
54 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 55 a 56.
55 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn lle paragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” rhodder—“
(a) sydd—
(i) wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i’w gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(ii) heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
(iii) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo; neu
(iv) wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod A wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;”.
56 
Yn Atodlen 1, paragraff 6 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a) yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—“
(b) a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”;
(b) yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder—“
(b) a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”;
(c) yn lle is-baragraff (3)(c) rhodder—“
(c) a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros;”; a
(d) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.”
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2018