
2018 Rhif 811 (Cy. 163)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 3 Gorffennaf 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Gorffennaf 2018
Yn dod i rym 1 Medi 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c), ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2018.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir (ac eithrio’r rheini a sefydlwyd mewn ysbytai) yng Nghymru.
Diwygio
2 
Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn erthygl 2(1) hepgorer y diffiniad o “y SCYA”;
(b) yn erthygl 3 ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i ddisgyblion sy’n sefyll y fersiwn ar-lein o’r PDCCS.”;
(c) yn erthygl 4 ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i ddisgyblion sy’n sefyll y fersiwn ar-lein o’r PDCCC.”;
(d) yn erthygl 5 ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i ddisgyblion sy’n sefyll y fersiwn ar-lein o’r PRhC.”; ac
(e) yn erthyglau 5(3)(b) a 6 hepgorer “neu i’r SCYA”.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2018