
2018 Rhif 806 (Cy. 162)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Gwnaed 2 Gorffennaf 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Gorffennaf 2018
Yn dod i rym 26 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan—
(a) ac eithrio rheoliadau 4, 26 a 29, i’r graddau y mae rheoliad 29 fel y’i darllenir gydag Atodlen 3 yn dirymu Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru) 1999 a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”);
(b) o ran rheoliadau 8(4)(b), 11(6)(a), 13(2), 21 a 26, baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 1972;
(c) o ran rheoliadau 4, 26 a 29, i’r graddau y mae rheoliad 29 fel y’i darllenir gydag Atodlen 3 yn dirymu Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru) 1999 a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000, adrannau 16(1)(a) ac 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas â—
(a) rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau;
(b) mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt;
(c) mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd;
(d) mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Fel y nodir uchod, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at yr Atodiadau penodedig i’r offerynnau a ganlyn gan yr UE gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—
(a) Atodiad I neu II i Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd;
(b) yr Atodiadau i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd;
(c) Atodiad I i Gyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd (Ail-lunio);
(d) Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;
(e) yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Gorffennaf 2018.
RHAN 2 Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â bwyd a bwyd anifeiliaid
Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996, hepgorer paragraff (f).
Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997
3 
Yn rheoliad 3(f) o Reoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997, yn lle “2(1)(a)” rhodder “2(1)”.
Rheoliadau Bara a Blawd 1998
4 

(1) Mae Rheoliadau Bara a Blawd 1998 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “flour treatment agent”;
(b) yn y diffiniad o “food additive”, yn lle “the Miscellaneous Food Additives Regulations 1995” rhodder “Article 3(2)(a) of Regulation (EC) No 1333/2008 of the European Parliament and of the Council on food additives”.
Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000
5 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder—“
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2013/26/EU;”.
Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001
6 

(1) Mae Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(3), yn lle’r geiriau o “â pharagraffau 1 a 2” hyd at “i bobl eu bwyta” rhodder “ag Atodiad 3 i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y caiff cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid ei wirio”.
(3) Hepgorer rheoliad 8.
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003
7 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniadau o “Cytundeb AEE” a “Gwladwriaeth yr AEE”.
(3) Yn rheoliad 7(2)(a), yn lle “Reoliadau 1996” rhodder “Erthygl 9(1)(b) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011”.
(4) Hepgorer rheoliad 12.
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003
8 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, hepgorer y diffiniadau o “Cytundeb yr AEE” a “Gwladwriaeth yr AEE”.
(3) Hepgorer rheoliad 11.
(4) Yn Atodlen 1—
(a) yn y tabl—
(i) yng nghofnod 5, yng ngholofn 2, yn is-baragraff (c), yn lle “pharagraff 4” rhodder “pharagraff 3”;
(ii) yng nghofnod 11, yng ngholofn 2, yn lle “pharagraff (2)” rhodder “pharagraff 3”;
(b) yn nodyn 7—
(i) yn lle “Chyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau’r Aelod-Wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd (Ail-luniwyd)” rhodder “Chyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd (Ail-lunio) fel y diwygir Atodiad I iddi o bryd i’w gilydd”;
(ii) yn lle “Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd” rhodder “Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd fel y diwygir yr Atodiadau iddo o bryd i’w gilydd”.
Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004
9 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004, hepgorer y diffiniadau o “Cytundeb AEE” a “Gwladwriaeth AEE”.
Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004
10 
Yn Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004, hepgorer rheoliad 9.
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
11 

(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad sy’n dechrau gyda “mae i “Penderfyniad 2006/766””—
(a) hepgorer ““Rheoliad 809/2011” (“Regulation 809/2011”),”;
(b) yn lle “, “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”), “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) a “Rheoliad 1079/2013” (“Regulation 1079/2013”)” rhodder “a “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”)”.
(3) Yn lle rheoliad 32 rhodder—“
Cyfyngiad ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl
32. 
Mae Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl) yn effeithiol.”
(4) Hepgorer rheoliad 33.
(5) Yn Atodlen 1—
(a) yn y diffiniad o “Rheoliad 852/2004” yn lle “a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor” rhodder “, Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ynghyd â Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2017/2158 sy’n sefydlu mesurau lliniaru a lefelau meincnodi ar gyfer lleihau presenoldeb acrylamid mewn bwyd”;
(b) yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004”, yn lle “, Rheoliad 1020/2008 a Rheoliad 1079/2013” rhodder “a Rheoliad 1020/2008”;
(c) yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004”, yn lle “, Rheoliad 1021/2008 a Rheoliad 1079/2013” rhodder “a Rheoliad 1021/2008”;
(d) yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”, yn lle “, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad 702/2013” rhodder “a Rheoliad 669/2009”;
(e) yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2073/2005” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1495 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2073/2005 o ran Campylobacter mewn carcasau brwyliaid;”;
(f) yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2074/2005” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n rhanddiddymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1973;”;
(g) hepgorer y diffiniadau o “Rheoliad 809/2011”, “Rheoliad 28/2012”, “Rheoliad 702/2013” a “Rheoliad 1079/2013”.
(6) Yn Atodlen 3—
(a) ym mharagraff 2(2), yn lle “Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014” rhodder “Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(b) yn lle paragraff 14 rhodder—“
14. 
At ddibenion yr Atodlen hon bydd unrhyw eiriau neu ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac unrhyw eiriau neu ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau a brasterau hylifol dros y môr neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/28/EC sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr yn dwyn yr un ystyr ag ystyr y geiriau neu’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn eu tro yn y Rheoliad hwnnw neu’r Gyfarwyddeb honno.”
(7) Yn Atodlen 3A, yn y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned”, yn lle’r geiriau o “Rheoliad (EC) Rhif 999/2001” hyd at “a roddwyd i’r Comisiwn” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/893”.
(8) Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 3—
(i) yn is-baragraff (dd), yn lle “Rheoliad y Cyngor 1906/90” rhodder “Rheoliad y Comisiwn 543/2008 a Rheoliad 1308/2013”;

(ii) yn is-baragraff (e), yn lle “Rheoliad y Cyngor 1907/90” rhodder “Rheoliad y Comisiwn 589/2008 a Rheoliad 1308/2013”;
(b) ym mharagraff 8—
(i) hepgorer y diffiniadau o “Rheoliad y Cyngor 1906/90” a “Rheoliad y Cyngor 1907/90”;
(ii) yn y lle priodol mewnosoder—(aa) “ystyr “Rheoliad y Comisiwn 543/2008” (“Commission Regulation 543/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod;”;(bb) “ystyr “Rheoliad y Comisiwn 589/2008” (“Commission Regulation 589/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer wyau;”;(cc) “ystyr “Rheoliad 1308/2013” (“Regulation 1308/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac sy’n diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007;”.
(9) Hepgorer Atodlen 7.
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007
12 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau 2006” rhodder—“
 ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009;”;
(ii) yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”, hepgorer paragraff (c);
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “Rheoliadau 2006” rhodder “Rheoliadau 2009”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2006” rhodder “Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.
(3) Yn rheoliad 9—
(a) ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “Rheoliadau 2006” rhodder “Rheoliadau 2009” ac yn lle “Reoliadau 2006” rhodder “Reoliadau 2009”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn lle “41 i 43” rhodder “45 i 47”;
(ii) yn lle “45 a 46” rhodder “49 a 50”.
(4) Hepgorer rheoliad 20.
Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007
13 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “y Rheoliad CE” rhodder—“
 ystyr “y Rheoliad CE” (“the EC Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd, fel y diwygir Atodiad I neu II iddo o bryd i’w gilydd.”
(3) Yn rheoliad 4(1), yn lle “Yn ddarostyngedig i’r mesurau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 18 (sy’n ymwneud â bwydydd a roddwyd ar y farchnad cyn 1 Gorffennaf 2007), mae” rhodder “Mae”.
Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007
14 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y diffiniad sy’n dechrau gyda “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””—(aa) yn lle “, “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”)” rhodder “a Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”)”;(bb) hepgorer “a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”)”;
(ii) yn y diffiniad o “mewnforyn trydedd wlad”, yn lle “y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 54 o Reoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007” rhodder “y mae Rhan 3 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion
Perthynol (Cymru) 2011 yn gymwys mewn cysylltiad ag ef”;
(b) ym mharagraff (2)(a), hepgorer “neu 7”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a) yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004”, yn lle “, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005” rhodder “a Rheoliad 2074/2005”;
(b) yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 854/2004” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2015/1375;”;
(c) yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”, hepgorer “a Rheoliad 2076/2005”;
(d) yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2074/2005” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n rhanddiddymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004.”;
(e) yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig.”;
(f) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 2076/2005”.
Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007
15 

(1) Mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 89/108” rhodder—“
 ystyr “Cyfarwyddeb 89/108” (“Directive 89/108”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/108/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy’n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi’u rhewi’n gyflym ac sydd i’w bwyta gan bobl;”;
(ii) yn lle’r diffiniad o “awdurdod bwyd” rhodder—“
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf;”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer “neu 7”;
(ii) ar ddiwedd is-baragraff (a), mewnosoder “neu”;
(iii) ar ddiwedd is-baragraff (b), hepgorer “neu”;
(iv) hepgorer is-baragraff (c).
(3) Yn rheoliad 9, hepgorer paragraff (3).
(4) Hepgorer Atodlen 3.
Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008
16 
Yn Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008, hepgorer rheoliad 8.
Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008
17 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 3—
(a) ym mharagraff 1(a), hepgorer y geiriau o “neu erthygl 4” hyd at “ddarllenadwy”;
(b) ym mharagraff 3, hepgorer is-baragraff (a) (ynghyd â’r “neu” ar y diwedd).
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
18 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad sy’n dechrau gyda “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””, yn lle “, “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) a “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”)” rhodder “a “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”)”.
(3) Yn rheoliad 22, yn y diffiniad o “cynnyrch”, yn lle “Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i’w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan
Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC” rhodder “Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i’w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC”.
(4) Yn Atodlen 1—
(a) yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”, yn lle “, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad 702/2013 (“Regulation 702/2013”)” rhodder “a Rheoliad 669/2009”;
(b) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 702/2013”.
(5) Yn Atodlen 3, yn y diffiniad o “cyfraith bwyd berthnasol” , ym mharagraff (a)—
(a) yn is-baragraff (iii), yn lle “Rheoliad y
Cyngor (EC) Rhif 509/2006 ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd fel arbenigeddau traddodiadol a warentir” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd”;
(b) yn is-baragraff (iv), yn lle “Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd”;
(c) yn lle is-baragraff (vi) rhodder—“
(vi) rheoleiddio labelu cig eidion a chig llo o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011,”;
(d) yn lle is-baragraff (vii) rhodder—“
(vii) rheoleiddio mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o dan Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 32(3)(b) o’r Rheoliadau hynny gan yr Asiantaeth,”.
Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009
19 

(1) Mae Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad sy’n dechrau gyda “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””, yn lle “, “Rheoliad 2075/2005” a “Rheoliad 2076/2005”” rhodder “a “Rheoliad 2015/1375”” ac yn lle “, “Regulation 2075/2005” a “Regulation 2076/2005”” rhodder “a “Regulation 2015/1375””.
(3) Yn Atodlen 1—
(a) yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004”, yn lle “, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005” rhodder “a Rheoliad 2074/2005”;
(b) yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004”, yn lle “, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005” rhodder “a Rheoliad 2015/1375”;
(c) yn y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”, hepgorer “a Rheoliad 2076/2005”;
(d) yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig.”;
(e) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 2076/2005”.
Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009
20 

(1) Mae Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle Atodlen 3 rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
(3) Yn lle Atodlen 4 rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011
21 
Yn rheoliad 8(2)(ch)(ii) o Reoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011, yn lle “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif
10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd” rhodder “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd fel y diwygir Atodiad I iddo o bryd i’w gilydd”.
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012
22 

(1) Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 13, yn lle “Yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1 mae unrhyw gyfeiriad” rhodder “Ac eithrio yn rheoliad 14(1), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1”.
(3) Yn rheoliad 14(1), yn lle “Erthygl 22(4) a (5) ac Erthygl 23,” rhodder “Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1282/2011, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1183/2012, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 202/2014, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/174, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2016/1416, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/752, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/79 ac Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/831,”.
(4) Yn rheoliad 16(2), yn lle “Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol), ni” rhodder “Ni”.
(5) Hepgorer rheoliadau 28 a 29.
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013
23 

(1) Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “Cyfarwyddeb 76/621”, “Cyfarwyddeb 80/891”, “Rheoliad 629/2008” a “Rheoliad 165/2010”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle “yng Nghyfarwyddeb 76/621, Cyfarwyddeb 80/891,” rhodder “yn”;
(ii) hepgorer “neu’r Cyfarwyddebau”;
(c) ym mharagraff (3)—
(i) yn lle “Gyfarwyddeb 76/621, Cyfarwyddeb 80/891, Rheoliad” rhodder “Reoliad”;
(ii) yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “Cyfarwyddebau neu’r”;
(d) ym mharagraff (4)(a), hepgorer “neu 7”.
(3) Hepgorer rheoliadau 3 a 4.
(4) Yn rheoliad 5—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae person sy’n mynd yn groes i unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau UE a bennir ym mharagraff (2) neu sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor ohonynt yn euog o drosedd.”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Rhaid penderfynu ar lefel yr asid erwsig mewn bwyd yn unol â dulliau samplu, a dulliau dadansoddi sy’n bodloni’r meini prawf perfformiad, a nodir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/705 sy’n gosod dulliau samplu a meini prawf perfformiad ar gyfer y dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli’n swyddogol lefelau’r asid erwsig mewn deunyddiau bwyd ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/891/EEC.”
(5) Yn rheoliad 6, hepgorer “reoliad 4(3) neu”.
(6) Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (1)(c)(i), hepgorer “4(3) neu”;
(b) ym mharagraff (2), wrth gymhwyso ac addasu adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, hepgorer “4(1) or”.
Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013
24 
Yn rheoliad 8(1)(b) o Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013, yn lle “(1), (3) or (4)” rhodder “(1)”.
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013
25 

(1) Mae Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 22.
(3) Yn Atodlen 7, yn Rhan 1—
(a) ym mharagraff 1, yn lle “sudd” rhodder “gynnyrch”;
(b) ym mharagraff 2, yn y geiriau cyn is-baragraff (a), yn lle “suddoedd” rhodder “cynhyrchion”.
(4) Yn Atodlen 9, ar ôl paragraff 9 mewnosoder—“
10. 
Proteinau planhigion i’w tryloywi o—
(a) gwenith,
(b) pys,
(c) tatws, neu
(d) unrhyw gyfuniad ohonynt.”
Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014
26 
Yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014, yn y diffiniad o “halen halltu”, ym mharagraff (c), yn lle “Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd fel y diwygir yr Atodiadau iddo o bryd i’w gilydd”.
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016
27 
Yn rheoliad 12 o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016, yn lle “Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae” rhodder “Mae”.
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016
28 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 882/2004” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 882/2004 (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y caiff cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid ei wirio;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 767/2009” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio, sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau’r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC;”.
(3) Yn rheoliad 4(2)(a), yn lle “2(e)” rhodder “2(f)”.
RHAN 3 Dirymiadau
29 
Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 3 wedi eu dirymu.
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2018
ATODLEN 1
YR ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 3 I REOLIADAU ARBELYDRU BWYD (CYMRU) 2009
Rheoliad 20(2)

“
ATODLEN 3
RHESTR O GYFLEUSTERAU A GYMERADWYWYD MEWN AELOD-WLADWRIAETHAU
Rheoliadau 3(1)a 5(1)(b)(i)


Rhif cyfeirnod swyddogol Enw a chyfeiriad
2110/91/0004 Sterigenics SAZoning Industriel6220 FleurusGwlad Belg
01/23.05.2008 Bulgamma, Sopharma LtdIliensko Shosse 16SofiaBwlgaria
2/26.10.2010 GITAVA Ltd ‘Kalina’Town of StamboliyskiHristo Botev str.Municipality StamboliyskiPlovdiv districtBwlgaria
IR-02-CZ Bioster a.s.Tejny 621664 71 Veverská BítýškaY Weriniaeth Tsiec
SN 01 Synergy Health Radeberg GmbHJuri—Gagarin Strasse 1501454 RadebergYr Almaen
BY FS 01/2001 Synergy Health Allershausen GmbHKesselbodenstrasse 785391 AllershausenYr Almaen
NRW-GM 01 ac NRW-GM 02 BGS Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KGFritz-Kotz-Str.1651674 WiehlYr Almaen
D-BW-X-01 Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KGJohn-Deere-Strasse 376646 BruchsalYr Almaen
2835 Scandinavian Clinics Estonia OÜKurvi tee 406a,Alliku kula,76403 Saue vald,HarjumaaEstonia
5.00001/CU Ionmed Esterilización, SAC/Rocinante, Parc.50(Polg. Ind. Tarancón)16400 Tarancón (Cuenca)Sbaen
5.00002/B Aerogamma S.L.Carretera Granollers a Cardeneu, Km. 3.508520 Les Franqueses del Vallés (Barcelona)Sbaen
5.00005/SO Mevion Technology, S.L.Avda. De España, 1Pol. Industrial Emiliano Revilla,42110 Ólvega (Soria)Sbaen
13055 F Synergy HealthRue Jean Queillau Marché des Arnavaux13014 Marseille Cedex 14Ffrainc
72 264 F Ionisos SAZone industrielle de l’Aubrée72300 Sablé-sur-SartheFfrainc
85 182 F Ionisos SAZone industrielle Montifaud85700 PouzaugesFfrainc
01 142 F Ionisos SAZone Industrielle les Chartinières01120 DagneuxFfrainc
10 093 F Ionisos SAZone Industrielle10500 ChaumesnilFfrainc
541-02/03-IRB16-1 Institut Ruder Bošković,Bijenička 54,10 000 Zagreb,Croatia
EU-AIF-04-2002 AGROSTER Besugárzó Zártkörűen Működő RészvénytársaságBudapestJászberényi út 51106Hwngari
RAD 1/04 IT Gammarad Italia SPAVia Marzabotto 4Minerbio (BO)Yr Eidal
GZB/VVB-991393 Ede Synergy HealthMorsestraat 36716AH EdeYr Iseldiroedd
GZB/VVB-991393 Etten-Leur Synergy HealthSoevereinsestraat 24879 NN Etten-LeurYr Iseldiroedd
GIS-HZ-4434-W.-2/MR/03 Institute of Applied Radiation ChemistryTechnical University of Lodz15 Wróblewskiego Str.39-590 ŁódźGwlad Pwyl
GIS-HZ-4434-W.-3/MR/03 Institute of Nuclear Chemistry and Technology16 Dorodna Str.03-195 WarsawGwlad Pwyl
RG016/2008 Multipurpose Irradiation FacilityIRASM Technological Irradiations DepartmentHoria HulubeiNational Institute for Research and Development of Physics and Nuclear EngineeringAtomiştilor Str. No. 407PO Box MG-6Măgurele. Ilfov CountyRwmania
EW/04 Synergy HealthMoray RoadElgin Industrial EstateSwindonWiltshireSN2 8XSY Deyrnas Unedig”.

ATODLEN 2
YR ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 4 I REOLIADAU ARBELYDRU BWYD (CYMRU) 2009
Rheoliad 20(3)

“
ATODLEN 4
RHESTR O GYFLEUSTERAU MEWN GWLEDYDD Y TU ALLAN I’R UNDEB EWROPEAIDD
Rheoliad 5(1)(b)(ii)


Rhif cyfeirnod swyddogol Enw a chyfeiriad
EU-AIF 01-2002 HEPRO Cape (Pty) Ltd6 Ferrule AvenueMontague GardensMilnerton 7441Western CapeGweriniaeth De Affrica
EU-AIF 02-2002 Gammaster South Africa (Pty) LtdPO Box 32195 Waterpas StreetIsando Extension 3Kempton Park 1620JohannesburgGweriniaeth De Affrica
EU-AIF 03-2002 Gamwave (Pty) LtdPO Box 26406Isipingo BeachDurban 4115Kwazulu-NatalGweriniaeth De Affrica
EU-AIF 05-2004 Gamma-Pak AsYünsa Yolu N: 4 0SBCerkezköy/TEKIRDAGTR-59500Twrci
EU-AIF 06-2004 Studer Ag Werk HardHogenweidstrasse 2DänikenCH-4658Y Swistir
EU-AIF 07-2006 Thai Irradiation CentreThailand Institute of Nuclear Technology(Public Organisation)37 Moo 3, TECHNOPOLISKlong 5, Klong LuangPathumthani 12120Gwlad Thai
EU-AIF 08-2006 Synergy Health (Thailand) Ltd700/465 Amata Nakorn IndustrialMoo 7, Tambon Donhuaroh,Amphur Muang,Chonburi 20000Gwlad Thai
EU-AIF 09-2010 Board of Radiation and Isotope TechnologyDepartment of Atomic EnergyBRIT/BARC Vashi ComplexSector 20, VashiNavi Mumbai – 400 705 (Maharashtra)India
EU-AIF 10-2010 Board of Radiation and Isotope TechnologyISOMEDBhabha Atomic Research CentreSouth Site Gate, Refinery RoadNext to TATA Power Station, TrombayMumbai – 400 085 (Maharashtra)India
EU-AIF 11-2010 Microtrol Sterilisation Services Pvt. LtdPlot No. 14 Bommasandra- Jigani Link Road Industrial AreaKIADB, Off Hosur RoadHennagarra PostBengalooru – 562 106 (Karnataka)India”.

ATODLEN 3
Y RHEOLIADAU SYDD WEDI EU DIRYMU
Rheoliad 29


Enw Rhif OS
Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru) 1999 1999/3464 (Cy. 52)
Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000 2000/1738 (Cy. 121)
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000 2000/1799 (Cy. 124)
Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygio) (Cymru) 2000 2000/1885 (Cy. 131)
Rheoliadau Cig (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2000 2000/2257 (Cy. 150)
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000 2000/3341 (Cy. 219)
Rheoliadau Cig Ffres (Dulliau Rheoli Cig Eidion) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000 2000/3388 (Cy. 225)
Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2001 2001/1302 (Cy. 79)
Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001 2001/1508 (Cy. 105)
Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) (Cymru) 2001 2001/1660 (Cy. 119)
Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001 2001/1690 (Cy. 120)
Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Marcio Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) 2001 2001/1740 (Cy. 123)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001 2001/1787 (Cy. 128)
Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) 2001 2001/1802 (Cy. 131)
Rheoliadau Cig (Pwerau Gorfodi Ehangach) (Cymru) 2001 2001/2198 (Cy. 158)
Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001 2001/2627 (Cy. 216)
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001
 2001/2679 (Cy. 220)
Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2001 2001/3831 (Cy. 317)
Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi’i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 2002/47 (Cy. 6)
Rheoliadau Clwy’r Traed a’r Genau (Marcio Cig, Paratoadau Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2002 2002/129 (Cy. 17)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002 2002/329 (Cy. 42)
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002 2002/330 (Cy. 43)
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002 2002/430 (Cy. 52)
Rheoliadau Cig (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) (Cymru) 2002 2002/1476 (Cy. 148)
Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2002 2002/1728 (Cy. 162)
Rheoliadau Bwyd a Bwydydd Anifeiliaid (Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002 2002/1798 (Cy. 173)
Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2002 2002/3011 (Cy. 283)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003 2003/945 (Cy. 126)
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003 2003/1713 (Cy. 181)
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2003 2003/3042 (Cy. 287)
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004 2004/245 (Cy. 24)
Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2004 2004/313 (Cy. 31)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2004 2004/554 (Cy. 57)
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004 2004/1012 (Cy. 109)
Rheoliadau Bwyd (Cyffaith Jeli) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2004 2004/1262 (Cy. 134)
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2004 2004/1509 (Cy. 158)
Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004 2004/1804 (Cy. 192)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005 2005/259 (Cy. 25)
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2005 2005/363 (Cy. 30)
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005
 2005/1156 (Cy. 73)
Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi’i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005 2005/1310 (Cy. 92)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005 2005/1311 (Cy. 93)
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005 2005/1628 (Cy. 122)
Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005 2005/3236 (Cy. 241)
Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2006 2006/767 (Cy. 74)
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2006 2006/2128 (Cy. 198)
Rheoliadau Cynhyrchion Reis (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2006 2006/2969 (Cy. 268)
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007 2007/116 (Cy. 7)
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2007 2007/579 (Cy. 51)
Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007 2007/1710 (Cy. 148)
Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007 2007/1835 (Cy. 159)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008 2008/138 (Cy. 20)
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2009 2009/390 (Cy. 40)
Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2009 2009/392 (Cy. 41)
Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009 2009/1088 (Cy. 96)
Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) 2009 2009/1092 (Cy. 97)
Rheoliadau Meini Prawf Purdeb ar gyfer Lliwiau, Melysyddion ac Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2009 2009/2201 (Cy. 186)
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009 2009/3105 (Cy. 271)
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009 2009/2939 (Cy. 256)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 2009/3378 (Cy. 300)
Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010 2010/1069 (Cy. 100)
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010 2010/2922 (Cy. 243)