
2018 Rhif 775 (Cy. 157)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn y Cod Gwarcheidiaeth Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2018
Gwnaed 27 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Gwarcheidiaeth Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod Penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig ddod i rym yw 2 Gorffennaf 2018.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2018