
2018 Rhif 772 (Cy. 156)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 27 Mehefin 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Mehefin 2018
Yn dod i rym 25 Gorffennaf 2018
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, a thrwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3 a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018, mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 25 Gorffennaf 2018.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 5 rhodder—“
5. 

(1) Mae’r ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 yn daladwy mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl gan berson sy’n gwneud cais am dystysgrif neu wasanaeth cyn-allforio.
(2) Swm y ffi mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 yw—
(a) yn achos allforiwr bach nad yw, ar ddyddiad y cais, ond wedi bod yn atebol yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais i dalu ffioedd o £250 neu lai mewn cysylltiad â gwasanaethau o dan y Gorchymyn hwn, y swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 y tabl hwnnw, a bennir yn unol â’r cofnodion ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yng ngholofn 2 y tabl hwnnw;
(b) mewn unrhyw achos arall, y swm a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4 y tabl hwnnw, a bennir yn unol â’r cofnodion ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yng ngholofn 2 y tabl hwnnw.
(3) Mae’r ffioedd a bennir yn y cofnodion yng ngholofnau 3 a 4 o’r tabl yn Atodlen 3 mewn cysylltiad ag arolygiad o lwyth neu archwiliad o arolygiad grawn yn daladwy ar gyfer pob 15 munud (neu ran ohono) a dreuliwyd yn cynnal yr arolygiad neu’r archwiliad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig, yn ddarostyngedig i isafswm y ffioedd a bennir yn y cofnodion hynny.
(4) Pan fo person yn cyflwyno cais am dystysgrif neu wasanaeth cyn-allforio neu’n cyflwyno archiad i ddiwygio tystysgrif ar bapur (ac nid ar-lein), mae’r ffi ychwanegol a ganlyn yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais neu’r archiad—
(a) yn achos allforiwr bach nad yw, ar ddyddiad y cais neu’r archiad, ond wedi bod yn atebol yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais neu’r archiad i dalu ffioedd o £250 neu lai mewn cysylltiad â gwasanaethau o dan y Gorchymyn hwn, £7.43;
(b) mewn unrhyw achos arall, £14.86.
(5) Mae unrhyw ffi sy’n daladwy o dan yr erthygl hon yn daladwy i Weinidogion Cymru ar gais.
(6) Yn yr erthygl hon, ystyr “allforiwr bach”, mewn perthynas â chais am dystysgrif neu wasanaeth cyn-allforio neu mewn perthynas ag archiad i ddiwygio tystysgrif, yw person—
(a) yn y flwyddyn ariannol y gwnaed y cais neu’r archiad ynddi—
(i) nad yw’n berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu
(ii) nad yw’n cyflenwi’n drethadwy blanhigion, cynhyrchion planhigion, hadau, pridd neu beiriannau amaethyddol at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu
(b) yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn pan wneir y cais neu’r archiad, sydd wedi allforio nwyddau a thystysgrif gyda hwy yr oedd cyfanswm eu gwerth yn llai na £5,000.”
(3) Yn lle Atodlen 3 rhodder—“
ATODLEN 3
Ffioedd gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio
Erthygl 5(1)

Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “cyfnod 1” (“period 1”) yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 30 Medi 2018;
 ystyr “cyfnod 2” (“period 2”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Hydref 2018 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019.

(1)Gwasanaeth (2)Dyddiad (3)Ffi (£) (4)Ffi (£)
Arolygiad o lwyth Yn achos arolygiad a gynhelir yng nghyfnod 1 34.44 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 68.88 68.88 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 137.76
 Yn achos arolygiad a gynhelir yng nghyfnod 2 35.38 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 70.76 70.76 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 141.52
 Yn achos arolygiad a gynhelir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny 36.80 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 73.60 70.76 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 141.52
Archwiliad o arolygiad grawn a gynhelir yn unol ag erthygl 3(3) Yn achos archwiliad a gynhelir yng nghyfnod 1 9.90 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 19.80 19.80 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 36.90
 Yn achos archwiliad a gynhelir yng nghyfnod 2 11.55 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 23.10 23.10 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 46.20
 Yn achos archwiliad a gynhelir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny 13.20 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 26.40 26.40 am bob 15 munud (neu ran ohono), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 52.80
Archwiliad mewn labordy Yn achos archwiliad mewn labordy a gynhelir yng nghyfnod 1 7.69 am bob sampl a brofir 15.38 am bob sampl a brofir
 Yn achos archwiliad mewn labordy a gynhelir yng nghyfnod 2 11.53 am bob sampl a brofir 23.07 am bob sampl a brofir
 Yn achos archwiliad mewn labordy a gynhelir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny 15.38 am bob sampl a brofir 30.76 am bob sampl a brofir
Dyroddi Tystysgrif Yn achos tystysgrif a ddyroddir yng nghyfnod 1 9.11 am bob tystysgrif 18.23 am bob tystysgrif
 Yn achos tystysgrif a ddyroddir yng nghyfnod 2 10.20 am bob tystysgrif 20.41 am bob tystysgrif
 Yn achos tystysgrif a ddyroddir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny 11.29 am bob tystysgrif 22.59 am bob tystysgrif
Diwygio tystysgrif ar archiad yr allforiwr  7.43 am bob tystysgrif 14.86 am bob tystysgrif
”
(4) Hepgorer Atodlen 4.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2018