
2018 Rhif 767 (Cy. 154)
Enillion Troseddau, Cymru
Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 24 Mehefin 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Mehefin 2018
Yn dod i rym 20 Gorffennaf 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 453(1A) a (2) o Ddeddf Enillion Troseddau 2002.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Gorffennaf 2018.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru.
Diwygio Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC) o’r Atodlen—
(a) ym mharagraff 3, ar ôl “290(4)(c)” mewnosoder “a’r cyfeiriad yn adran 297A(6)(c)”;
(b) ar ôl paragraff 3 mewnosoder—“
3A. 
Adran 303C(9)(d) (swyddog perthnasol at ddibenion Pennod 3A), adran 303L(5)(d) (personau penodedig - cadwad pellach o eiddo yr ymafaelwyd ynddo) ac adran 303O(2)(d) (personau penodedig - fforffedu eiddo).
3B. 
Adran 303Z1(6) (swyddog gorfodi at ddibenion Pennod 3B) ac adran 303Z14(3)(d) (personau penodedig at ddibenion ceisiadau fforffedu cyfrif).”;
(c) ym mharagraff 4, ar ôl “352(5)(c)” mewnosoder “, (ca) ac (cb)”;
(d) ym mharagraff 5, ar ôl “353(10)(c)” mewnosoder “, (ca) ac (cb)”; ac
(e) ar ôl paragraff 7 mewnosoder—“
7A. 
Adran 378(3C)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).
7B. 
Adran 378(3E)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).”
(3) Yn Rhan 2 (cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC ac sydd ar radd 7 neu uwch neu radd gyfatebol) o’r Atodlen—
(a) ar ôl paragraff 11 mewnosoder—“
11A. 
Adran 297A(6)(c) (uwch-swyddog at ddiben rhoi hysbysiad fforffedu).
11B. 
Adran 303E(4)(f) (uwch-swyddog at ddibenion cymeradwyaeth ymlaen llaw i gynnal chwiliadau).
11C. 
Adran 303Z2(4)(e) (uwch-swyddog at ddibenion Pennod 3B).
11D. 
Adran 336D(7)(h) (uwch-swyddog at ddibenion adran 336A (pŵer y llys i estyn y cyfnod moratoriwm)).”; a
(b) ar ôl paragraff 13 mewnosoder—“
13A. 
Adran 378(3D)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).
13B. 
Adran 378(3F)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2018