
2018 Rhif 766 (Cy. 153)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018
Gwnaed 26 Mehefin 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Mehefin 2018
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29(3) a (5), 408(1), 537(1), 537A(1), (2) a (4), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac yn adrannau 19 a 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997, ac yn adrannau 21(3), 30(1) a (2), 131 a 210 o Ddeddf Addysg 2002, ac yn adrannau 22(3) a (4) a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011, ac yn adrannau 87 a 98 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ac sy’n arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru.

Yn unol ag adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol yng Nghymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, cyrff sy’n cynrychioli buddiannau cyrff llywodraethu yng Nghymru a chyrff sy’n cynrychioli buddiannau athrawon yng Nghymru yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 5(2)—
(i) hepgorer is-baragraff (c); a
(ii) yn is-baragraff (d) yn lle “yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau” rhodder “yr Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau”; a
(b) yn lle paragraff 1 yn Rhan 2 o Atodlen 2 rhodder—“
1. 

(1) Yr wybodaeth ganlynol—
(a) a yw neu a oedd y disgybl yn astudio tuag at Gymhwyster Bagloriaeth Cymru; a
(b) teitl pob gweithgaredd dysgu y mae neu yr oedd y disgybl yn ei astudio.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i bob person—
(a) sy’n ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi’r cais am yr wybodaeth;
(b) a oedd yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol ar unrhyw adeg flaenorol yn ystod y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi’r cais am yr wybodaeth; neu
(c) a oedd yn ddisgybl yn chweched dosbarth yr ysgol yn y flwyddyn yn union cyn y flwyddyn ysgol y gwnaed ynddi’r cais am yr wybodaeth.”
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
3 
Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “adroddiad cymharol ar lythrennedd a rhifedd”;
(b) yn rheoliad 5(2)(a) hepgorer “5,”; ac
(c) yn Atodlen 2 hepgorer paragraffau 5 a 5A.
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011
4 
Mae rheoliad 3 o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Yn achos disgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar, rhaid cynnwys yn yr adroddiad y ddogfen “Crynodeb o Berfformiad Ysgol Uwchradd” ddiweddaraf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd mewn perthynas â’r ysgol ar Fenter Cyfnewid Data Cymru.”;
(b) ym mharagraff (5) yn lle “mharagraffau (3) a (4)” rhodder “mharagraff (3)”; ac
(c) ym mharagraff (8)(b) yn lle “1 a 2(4)” rhodder “1, 2(4), 3(4) ac 8(1) a (2)”.
Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011
5 
Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “adroddiad cymharol ar lythrennedd a rhifedd”; a
(b) yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 27 ac 31.
Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011
6 

(1) Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “cyflawni’r dangosydd pynciau craidd”;
(b) yn y diffiniad o “set ddata” hepgorer “asesiadau athrawon,”; ac
(c) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “Blwyddyn 11” (“Year 11”) yw blwyddyn ysgol olaf cyfnod allweddol pedwar;”; ac“
 ystyr “disgyblion cyfnod allweddol pedwar” (“fourth key stage pupils”) yw disgyblion sydd yng nghyfnod allweddol pedwar y cyfeirir ato yn adran 103(1)(d) o Ddeddf 2002;”.
(3) Yn rheoliadau 3(4)(b) a 4(4)(b) yn lle “set ddata” rhodder “data”.
(4) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “wedi cyrraedd 15 oed” rhodder “ym Mlwyddyn 11”;
(b) ym mharagraff (2) yn lle “yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol y byddant” rhodder “ym Mlwyddyn 11 pan fyddant”;
(c) ym mhob lle y mae’n digwydd ym mharagraffau (3) a (6) ac yn y pennawd i reoliad 5, yn lle “a fydd yn cyrraedd 16 oed” rhodder “a fydd ym Mlwyddyn 11”; a
(d) ym mharagraff (4)—
(i) hepgorer is-baragraffau (a) a (d); a
(ii) yn is-baragraff (b) hepgorer “mewn asesiadau athrawon fel a bennwyd”.
(5) Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (1)(a) ar ôl “disgyblion” mewnosoder “ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 11”;
(b) ym mharagraff (2)(a)(i) yn lle “3(6)” rhodder “3(5)”;
(c) ym mharagraff (2)(a)(iii) yn lle “a fydd yn cyrraedd 16 oed (fel y’i diffinnir yn rheoliad 5(7))” rhodder “a fydd ym Mlwyddyn 11 (fel y’i diffinnir yn rheoliad 5(6))”;
(d) ym mharagraff (2)(b) hepgorer paragraffau (i) a (ii);
(e) ym mharagraff (2)(b)(iii) yn lle “wedi cyrraedd 16 oed” rhodder “ym Mlwyddyn 11” ac ym mharagraff (3)(c) yn lle “a gyrhaeddodd 16 oed” rhodder “sydd ym Mlwyddyn 11”;
(f) ym mharagraff (3) hepgorer is-baragraffau (a) a (b); ac
(g) ym mharagraff (3)(c) hepgorer paragraffau (i) a (vi).
(6) Ym mharagraffau 1(a) a (d)(i) a 3(a) a (d)(i) o Atodlen 2, ar ôl “disgyblion” mewnosoder “ym Mlwyddyn 11”.
Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011
7 

(1) Mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y rheoliadau a ganlyn yn lle “datblygu” a “datblygiad” rhodder “dysgu proffesiynol” ac yn lle “ddatblygiad” rhodder “ddysgu proffesiynol”—
(a) rheoliad 5(7);
(b) rheoliad 15(1)(c);
(c) rheoliad 17(5);
(d) rheoliad 29(1)(c);
(e) rheoliad 31(4); ac
(f) rheoliad 44(4).
(3) Yn y rheoliadau a ganlyn yn lle “datblygu” rhodder “dysgu” ac yn lle “ddatblygiad” rhodder “ddysgu”—
(a) rheoliad 12(7)(b);
(b) rheoliad 26(7)(b);
(c) rheoliad 39(7)(b); a
(d) rheoliad 42(1)(c).
(4) Yn y rheoliadau a ganlyn yn lle “datblygu” rhodder “dysgu proffesiynol”—
(a) rheoliad 15(4);
(b) rheoliad 29(4); ac
(c) rheoliad 42(4).
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013
8 

(1) Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” yn lle “mis Ionawr 2016 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” rhodder “mis Mehefin 2018 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion””.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013.
Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013
9 
Yn lle rheoliad 8 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 rhodder—“
8. 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynllun (neu’r cynllun diwygiedig) drwy—
(a) ei roi ar wefan yr awdurdod lleol; a
(b) sicrhau bod copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt—
(i) yn swyddfa’r awdurdod lleol; a
(ii) mewn unrhyw le arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
(2) Ni chaiff awdurdod lleol gyhoeddi’r wybodaeth ategol a nodir ym mharagraffau 4 a 5 o Atodlen 3.”
Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014
10 
Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “gwybodaeth ysgol gymharol” hepgorer “asesiadau athrawon,”; a
(b) yn yr Atodlen, ym mharagraff 3 yn lle “datblygiad” rhodder “dysgu” ac yn y pennawd yn lle “datblygu” rhodder “dysgu”.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Mehefin 2018