
2018 No. 724 (Cy. 141)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Trwyddedu (morol), Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 11th Mehefin 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14th Mehefin 2018
Yn dod i rym 5th Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Gorffennaf 2018.
Diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3 (dehongli), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”), yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Comisiwn (UE) 2015/1127”, rhodder “fel y’i diwygwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (UE) 2017/997”.
Dirymiad
3 
Dirymir Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynlluno a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11th Mehefin 2018