
2018 Rhif 721 (Cy. 140)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwastraff, Cymru
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
Gwnaed 11 Mehefin 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mehefin 2018
Yn dod i rym 5 Gorffennaf 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag—
(a) mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu;
(b) atal, lleihau a rheoli gwastraff.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Gorffennaf 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
2 
Yn adran 62A(2)(b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (rhestrau o wastraff sy’n arddangos nodweddion peryglus), ar ôl “Directive 2008/98/EC” mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
3 
Yn lle rheoliad 2(1)(a) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr Gwastraff), rhodder—“
(a) “ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997;”.
Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007
4 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 (dehongli a hysbysiadau), yn y diffiniad o “the Waste Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011
5 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (dehongli), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder, “as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
6 
Yn rheoliad 3 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (dehongli: Cyfarwyddebau), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
Dirymiadau
7 
Mae’r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015;
(b) rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2018