
2018 Rhif 708 (Cy. 139)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018
Gwnaed 11 Mehefin 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Mehefin 2018
Yn dod i rym 4 Gorffennaf 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 38(5)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hepgoriadau o’r Gofrestr a Gyhoeddwyd) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Gorffennaf 2018.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;mae i “gwasanaeth llety diogel” (“secure accommodation service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed.
Hepgor gwybodaeth o’r gofrestr a gyhoeddwyd o ddarparwyr gwasanaethau
3 
At ddibenion adran 38(5)(a) o’r Ddeddf caiff Gweinidogion Cymru hepgor o’r gofrestr a gyhoeddwyd o ddarparwyr gwasanaethau yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan adran 38(2)(b) o’r Ddeddf mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â man—
(a) y darperir gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ynddo;
(b) y darperir gwasanaeth llety diogel ynddo.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2018