
2018 Rhif 650 (Cy. 122)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018
Gwnaed 22 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mai 2018
Yn dod i rym 30 Mehefin 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at y dibenion o wneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a) adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi;
(b) adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy; ac
(c) adran 10(1) a (3)(c) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984.

Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018. Maent yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 30 Mehefin 2018.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “arolygfa ffin” (“border inspection post”) yr ystyr a roddir gan reoliad 11 o Reoliadau 2011;ystyr “cynllun iechyd dofednod” (“poultry health scheme”) yw’r cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC, ac Atodiad II iddi, ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd, ac a weithredir gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau 2011;ystyr “llwyth” (“consignment”) yw nifer o anifeiliaid o’r un rhywogaeth, sydd wedi eu cynnwys o dan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol;ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrir yn y gofrestr o filfeddygon a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966;ystyr “Rheoliadau 1964” (“the 1964 Regulations”) yw Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (Cymru a Lloegr) 1964;ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Ffrwythloni Moch yn Artiffisial (EEC) 1992;ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Embryonau Buchol (Casglu, Cynhyrchu a Throsglwyddo) 1995;ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008;ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011;ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru; acystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth.
Ad-dalu ffioedd
3 
Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy amdano o dan y Rheoliadau hyn ei dynnu’n ôl cyn penderfynu’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd y gyfran honno o unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais hwnnw sy’n rhesymol ym marn Gweinidogion Cymru, o ystyried unrhyw gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais.
Y rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela (milheintiau): ffioedd
4 

(1) Mae Atodlen 1 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â rheoli Salmonela yn unol â’r rhaglen reoli genedlaethol berthnasol a sefydlwyd gan Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor, neu oddi tano, ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd.
(2) Yn Atodlen 1—
(a) mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros ddaliad dofednod am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b) mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; ac
(c) mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros heidiau dofednod am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 1 yr un ystyr ag yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003.
Y cynllun iechyd dofednod:ffioedd
5 

(1) Mae Atodlen 2 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod.
(2) Yn Atodlen 2—
(a) mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; a
(b) mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
Semen buchol:ffioedd
6 

(1) Mae Rheoliadau 2008 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle rheoliad 41 rhodder—“
41. 
Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru fel y darperir gan reoliad 6(3) o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018.”
(3) Mae Atodlen 3 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2008; ac yn unol â hynny mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(4) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 3 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 2008.
Semen moch:ffioedd
7 

(1) Mae Atodlen 4 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â dyroddi trwyddedau neu gymeradwyaethau o dan Reoliadau 1964 neu Reoliadau 1992, a phrofion ac archwiliadau a gynhelir o dan y Rheoliadau hynny.
(2) Yn Atodlen 4 mae’r ffioedd sy’n daladwy gan y ceisydd am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, neu gan ddeiliad trwydded neu gymeradwyaeth o’r fath, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Yn Atodlen 4 ystyr “canolfan ffrwythloni artiffisial” yw mangre—
(a) y mae trwydded mewn grym mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 4(1) o Reoliadau 1964, neu
(b) sydd wedi ei chymeradwyo o dan reoliad 2(2) neu (3) o Reoliadau 1992.
Embryonau buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo):ffioedd
8 

(1) Mae Atodlen 5 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am weithgareddau mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth neu ddeiliad cymeradwyaeth o dan Reoliadau 1995.
(2) Yn Atodlen 5, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr am gymeradwyaeth o dan Reoliadau 1995 am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl, neu gan ddeiliaid cymeradwyaeth o’r fath, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.
(3) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn Atodlen 5 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 1995.
Gwirio llwythi o anifeiliaid byw mewn arolygfeydd
ffin:ffioedd
9 

(1) Mae Atodlen 6 yn nodi’r ffioedd sy’n daladwy pan gynhelir arolygiadau mewn arolygfeydd ffin o lwythi o anifeiliaid byw o drydedd wlad yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2011.
(2) Yn Atodlen 6—
(a) mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arolygu llwyth o anifeiliaid byw a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw;
(b) mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arolygiadau a gynhelir yn ystod cyfnod a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac maent yn daladwy yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (a);
(c) mae’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwiriadau ychwanegol oherwydd peidio â chydymffurfio neu fesurau rheoli ychwanegol gan berson a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac maent yn daladwy yn ychwanegol at unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (a).
Dirymu
10 
Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2013 wedi eu dirymu, ac eithrio rheoliadau 1, 4 a 7(1) i (3).
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mai 2018
ATODLEN 1
Y rhaglenni cenedlaethol rheoli salmonela (milheintiau): Ffioedd
Rheoliad 4

Tabl 1
Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros ddaliad ieir neu dyrcwn, y mae sampl swyddogol wedi ei chymryd ohono, ei phrosesu a’i harchwilio at ddibenion Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd yn cael sampl reoli swyddogol i’w harchwilio mewnlabordy (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a bennir isod oni phennir fel arall yng ngholofn 2) 9 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod 14 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 84
Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir dodwy 32
Cymryd sampl rheoli swyddogol o haid o ieir neu dyrcwn bridio 52
Cymryd sampl reoli swyddogol o haid o ieir bwyta (brwyliaid) neu haid o dyrcwn pesgi 72
Archwilio sampl reoli swyddogol mewn labordy 14 am bob sampl a brofwyd (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

Tabl 2
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyaeth o dan Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol i labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy 73
Cynnal arolygiadau a gwaith sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwywyd y labordy ar eu cyfer Un prawf 350
Dau brawf 361
Tri phrawf 372
Pedwar prawf 384
Cynnal profion cydweithredol ar gyfer Salmonela fel sy’n ofynnol i gael cymeradwyaeth fel labordy profi, a chadw’r gymeradwyaeth honno 34 am bob prawf

Tabl 3
Ffioedd sy’n daladwy gan y person sydd â gofal dros heidiau dofednod am brofion a gynhelir o dan y protocol samplu ym mhwynt 4(b) o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Cynnal profion ar saith o samplau llwch a charthion a gymerir o bob haid 99
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar gaeca ac wyffosydd 300 o adar o bob haid 2,470
Samplu a chynnal profion bacteriolegol ar blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid 3,080
ATODLEN 2
Y cynllun iechyd dofednod: Ffioedd
Rheoliad 5

Tabl 1
Ffioedd am gofrestru a chymeradwyo sefydliad at ddibenion y cynllun iechyd dofednod
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (y “ffi amser” yn y Tabl hwn) (yn ogystal â’r ffioedd a restrir isod, oni phennir fel arall yng ngholofn 2) 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre aelod o’r cynllun iechyd dofednod (“aelod o’r cynllun” yn y Tabl hwn) at ddibenion y gweithgareddau isod 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126
Cofrestriad blynyddol fel aelod o gynllun 55 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol 27
Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol 56
Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan swyddog milfeddygol 31
Ailgymeradwyo blynyddol ar gyfer haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, neu gyfuniad o haid a deorfa aelod o’r cynllun ar un safle, pan gynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol 54 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)
Ailgymeradwyo safleoedd ychwanegol pan fo aelod o’r cynllun yn gwneud cais ar yr un pryd ar gyfer safleoedd lluosog, ac y cynhelir yr arolygiad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol 29 (nid yw’r ffi amser yn gymwys)

Tabl 2
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyo at ddiben y cynllun iechyd dofednod
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Prosesu cais am gymeradwyaeth gychwynnol ar gyfer labordy, neu am adnewyddiad dwyflynyddol o gymeradwyaeth labordy 73
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â bacterioleg Salmonela (pullorum, gallinarum ac arizonae) 131 am bob prawf
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Salmonela (pullorum, gallinarum) 321 am bob prawf
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn ieir (gallisepticum) 321 am bob prawf
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis) 281 am bob prawf
Prawf hyfedredd mewn cysylltiad â seroleg Mycoplasma mewn tyrcwn (gallisepticum a meleagridis) 336 am bob prawf
ATODLEN 3
Semen buchol: Ffioedd
Rheoliad 6

Ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr a gweithredwyr o dan Reoliadau 2008
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126
Ystyried cais i gymeradwyo anifail buchol o dan reoliadau 7 neu 10 o Reoliadau 2008 i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu 20
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2008 i gymeradwyo anifail buchol i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu CE 26
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantin CE o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 29
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gasglu CE neu ddomestig, neu ganolfan storio CE neu ddomestig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2008 27
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 2008 17
Cynnal archwiliad rheolaidd o anifail buchol cymeradwy at ddefnydd domestig neu ddefnydd y CE o dan reoliad 33 o Reoliadau 2008 23
ATODLEN 4
Semen moch: Ffioedd
Rheoliad 7

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1964 a Rheoliadau 1992
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn cyflawni’r gweithgareddau yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126
Cais i gymeradwyo baedd i ddarparu semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial
Ystyried cais i gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at y diben o gasglu semen 31 am bob baedd
Profi baedd yn rheolaidd
Profi baedd yn rheolaidd mewn canolfan ffrwythloni artiffisial 23 am bob baedd
Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial
Ystyried cais oddi wrth weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial 27
Ystyried cais i gymeradwyo newid mewn mangre drwyddedig neu fangre gymeradwy (yn unol ag amodau sydd ynghlwm â’r drwydded neu gymeradwyaeth) 25
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial 17
ATODLEN 5
Embryonau buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo): Ffioedd
Rheoliad 8

Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1995
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£)
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol wrth gyflawni’r gweithgareddau a restrir yn y Tabl hwn (yn ogystal â phob un o’r ffioedd a restrir isod) 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre at ddibenion y gweithgareddau isod 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 126
Ystyried cais i gymeradwyo neu ailgymeradwyo:
— tîm trosglwyddo embryonau buchol;
— storfa o dan reoliad 13 o Reoliadau 1995;
— storfa o dan reoliad 16 o Reoliadau 1995;
— storfa, a goruchwylydd y storfa honno, o dan reoliadau 16 a 19 o Reoliadau 1995; neu
— un tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol (gan gynnwys arolygu labordy neu beidio) 28
Ystyried cais gan yr un ceisydd i gymeradwyo pob labordy neu storfa ychwanegol pan gaiff yr arolygiad ei gwblhau ar yr un diwrnod 9
Ystyried cais i ailgymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau 25
Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion un tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ac ailarolygu un labordy neu storfa 17
Cynnal arolygiad rheolaidd o gofnodion pob tîm cynhyrchu, casglu neu drosglwyddo embryonau buchol ychwanegol, ac ailarolygu pob labordy neu storfa ychwanegol 4 am bob tîm ychwanegol a phob labordy neu storfa ychwanegol
ATODLEN 6
Gwirio llwythi o anifeiliaid byw o drydydd gwledydd mewn arolygfeydd ffin: Ffioedd
Rheoliad 9

Tabl 1
Ffioedd am arolygu llwythi o anifeiliaid o drydydd gwledydd a gwirio dogfennau mewnforio mewn arolygfeydd ffin yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2011
Colofn 1Arolygu math o anifail a gwirio dogfennau Colofn 2Ffi (£) am bob llwyth
Dofednod ac adar hela bach 65
Wyau dofednod 38
Ratidau 65
Adar caeth 64
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol a gwenyn 32
Cwningod a chnofilod 29
Pryfed eraill, infertebratau, ymlusgiad ac amffibiaid 26
Anifeiliaid anwes heb ddatganiad 57
Equidae 62
Da byw a ffermir, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt 146
Anifeiliaid nas cynhwysir mewn unrhyw gategori arall 55
Gwirio dogfennau ar gyfer trawslwytho 52

Tabl 2
Ffioedd ychwanegol ar gyfer arolygiadau penodol
Colofn 1Y cyfnod pryd y cynhaliwyd yr arolygiad Colofn 2Ffi (£) am bob llwyth
Arolygiad y tu allan i oriau 140 am bob llwyth
Arolygiad yn ystod penwythnos neu ŵyl gyhoeddus 185 am bob llwyth
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd, hyd at uchafswm o 64 am bob ymweliad




Tabl 3
Ffioedd ar gyfer gwiriadau ychwanegol oherwydd achosion o beidio â chydymffurfio neu fesurau rheoli ychwanegol
Colofn 1Y personau sy’n ymgymryd â’r gwiriad ychwanegol Colofn 2Ffi (£) am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreuliwyd
Swyddog milfeddygol – gwiriadau y tu allan i oriau 17
Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar benwythnosau neu wyliau cyhoeddus 23
Swyddog milfeddygol – gwiriadau ar bob adeg arall 11
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac o fangre 16, hyd at uchafswm o 64 am bob ymweliad

