
2018 Rhif 646 (Cy. 120)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018
Gwnaed 22 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mai 2018
Yn dod i rym 30 Mehefin 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a) adran 2(2) o Ddeddf 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi; a
(b) adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.

Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973, mae’r Trysorlys yn cydsynio i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid a Phasbortau Anifeiliaid Anwes (Ffioedd) (Cymru) 2018. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mehefin 2018.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “cymeradwyaeth” a “cymeradwyo” (“approval”) yn cynnwys cymeradwyaeth amodol o dan Erthygl 44(2) o Reoliad Rheolaeth yr UE;
 ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person sydd wedi ei gofrestru yng nghofrestr y milfeddygon a gedwir o dan Ddeddf Milfeddygon 1966;
 ystyr “Rheoliad Rheolaeth yr UE” (“EU Control Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002;
 ystyr “swyddog milfeddygol” (“veterinary officer”) yw milfeddyg a gyflogir gan Weinidogion Cymru.
Ad-dalu ffioedd
3 
Os caiff unrhyw gais y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn ei dynnu yn ôl cyn y penderfynir ar y cais, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd unrhyw gyfran o unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn rhesymol, gan roi sylw i unrhyw gostau rhesymol yr aeth Gweinidogion Cymru iddynt mewn cysylltiad â’r cais.
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliedig
4 

(1) Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am geisiadau mewn cysylltiad â gweithgareddau cymeradwyo o dan Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE i’w pennu yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen.
(2) Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gweithgareddau arolygu o dan Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE i’w pennu yn unol â Thabl 2 o’r Atodlen.
(3) Mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen yr un ystyr ag yn Rheoliad Rheolaeth yr UE.
Pasbortau anifeiliaid anwes: ffioedd
5 

(1) Y ffi sy’n daladwy i Weinidogion Cymru gan filfeddyg awdurdodedig am swp o 20 dogfen adnabod wag yw £56.
(2) Codir cost postio a phecynnu ar y milfeddyg awdurdodedig—
(a) pan na fo’r dogfennau adnabod yn cael eu casglu yn bersonol;
(b) pan fo’r milfeddyg awdurdodedig yn gofyn i’r dogfennau adnabod gael eu hanfon drwy’r post.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “dogfen adnabod” (“identification document”) yw dogfen sydd i’w dyroddi a’i llenwi gan filfeddyg awdurdodedig yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad (EU) Rhif 576/2013 ar gyfer symud anifeiliaid anwes o fewn yr UE; ac
 ystyr “milfeddyg awdurdodedig” (“authorised veterinarian”) yw milfeddyg y mae Gweinidogion Cymru wedi ei awdurdodi i gyflawni tasgau yn unol â Rheoliad (EU) Rhif 576/2013.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mai 2018
YR ATODLEN
Rheoliad 4

Tabl 1
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu weithfa am gais i gael cymeradwyaeth neu gymeradwyaeth amodol o dan Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£) hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019 Colofn 3Ffi (£) ar ôl 30 Mehefin 2019
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 126 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 126
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn 14 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 84 14 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 84
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol at ddiben gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn ar ôl 60 munud cyntaf ymweliad safle er mwyn asesu addasrwydd i gael cymeradwyaeth 8 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) at ddiben gweinyddu ymweliadau atodol a gweithgareddau cysylltiedig 3 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 6 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Ffi weinyddol atodol am gyflwyno anfonebau am ymweliadau atodol neu weithgareddau cysylltiedig 7 am bob anfoneb 13 am bob anfoneb
Ystyried cais am gymeradwyaeth i weithfa rendro sy’n prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud 892 1785
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrawsnewid sgil-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion deilliedig yn gompost, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud 475 951
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrawsnewid sgil-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion deilliedig yn fio-nwy, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud 475 951
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â thrin sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar ôl eu casglu, drwy weithrediadau megis didoli, torri, oeri, rhewi, halltu, tynnu crwyn neu dynnu deunydd risg penodedig, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud 242 485
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n ymgymryd â storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion deilliedig, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud 242 485
Ystyried cais am gymeradwyaeth i sefydliad neu weithfa sy’n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud 198 395
Ystyried cais am gymeradwyaeth i weithfa losgi, sy’n cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud 198 395


Tabl 2
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu weithfa am ymweliadau safle o dan Erthygl 45 o Reoliad Rheolaeth yr UE
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£) hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019 Colofn 3Ffi (£) ar ôl 30 Mehefin 2019
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 126 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 126
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn teithio i fangre ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau yn y Tabl hwn 14 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 84 14 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 84
Yr amser a dreulir gan swyddog milfeddygol at ddiben ymweliadau safle sy’n para mwy na 30 munud 8 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) at ddiben ymweliadau safle sy’n para mwy na 30 munud 4 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 8 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru (ac eithrio swyddog milfeddygol) yn trefnu ymweliadau safle ac yn ymdrin ag unrhyw bwyntiau gweithredu sy’n codi o’r ymweliad 3 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 6 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Cynnal 30 munud cyntaf arolygiad blynyddol neu ddwyflynyddol o sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd sy’n ofynnol o dan Reoliad Rheolaeth yr UE 78 am bob ymweliad 157 am bob ymweliad
Ffi flynyddol am gynnal 30 munud cyntaf pob un o bedwar ymweliad safle er mwyn arolygu sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd pan fo arolygiad chwarterol yn ofynnol o dan Reoliad Rheolaeth yr UE 281 y flwyddyn 561 y flwyddyn
Ffi flynyddol am gynnal 30 munud cyntaf pob un o ddeuddeg ymweliad safle er mwyn arolygu sefydliad neu weithfa a gymeradwywyd neu a gofrestrwyd pan fo ymweliadau arolygu misol yn ofynnol o dan Reoliad Rheolaeth yr UE 829 y flwyddyn 1658 y flwyddyn
