
2018 Rhif 645 (Cy. 119)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018
Gwnaed 22 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Mai 2018
Yn dod i rym 30 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 84 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018. Mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2018.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail ac iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;
 ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw mangre lle caiff anifeiliaid eu casglu i’w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr;
 ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi at un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—
(a) gwerthiant, sioe neu arddangosfa;
(b) casglu i draddodi anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr;
(c) arolygiad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;
 ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010;
 ystyr “mangre drwyddedig” (“licensed premises”) yw mangre a drwyddedwyd o dan erthygl 5(1) o Orchymyn 2010.
Ffioedd sy’n daladwy
3 

(1) Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddyroddi, diwygio neu adnewyddu trwydded o dan Orchymyn 2010 i’w pennu yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen.
(2) Mae’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru am ddyroddi ac adnewyddu trwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd o dan Orchymyn 2010 i’w pennu yn unol â Thabl 2 o’r Atodlen.
(3) Mae ffioedd atodol mewn perthynas ag amser teithio ac ymweliadau milfeddygol ychwanegol sy’n daladwy i Weinidogion Cymru i’w pennu yn unol â Thabl 3 o’r Atodlen.
(4) Mae person wedi ei eithrio rhag ffi trwydded—
(a) pan fo’r crynhoad anifeiliaid mewn mangre, neu mewn mangre y mae’r drwydded yn ymwneud â hi, yn sioe neu arddangosfa’n unig sydd ar agor i’r cyhoedd am ddim mwy nag un diwrnod ar y tro; a
(b) pan na fo gwerthiant cyhoeddus nac arwerthiant anifeiliaid yn digwydd mewn sioe neu arddangosfa o’r fath.
(5) Mae person wedi ei eithrio rhag ffioedd o dan y Gorchymyn hwn pan fo’r drwydded yn ymwneud â mangre, neu ran o fangre, a ddefnyddir yn unig at ddiben crynhoad anifeiliaid er mwyn cynnal arolygiad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mai 2018
YR ATODLEN
Erthygl 3

Tabl 1
Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangre ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu ganolfannau casglu
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£) hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019 Colofn 3Ffi (£) ar ôl 30 Mehefin 2019
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 munud o amser arolygu. 128 256
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 munud o amser arolygu. 207 414
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 munud o amser arolygu. 108 217
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal mwy nag un ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 munud o amser arolygu. 171 342

Tabl 2
Ffioedd sy’n daladwy am drwyddedu mangre ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£) hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019 Colofn 3Ffi (£) ar ôl 30 Mehefin 2019
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 57 114
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 munud o amser arolygu. 123 245
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu nad yw ymweliad arolygu yn ofynnol. 45 91
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 55 110
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod mwy nag ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 78 157

Tabl 3
Ffioedd atodol sy’n daladwy am drwyddedu mangre
Colofn 1Gweithgaredd Colofn 2Ffi (£) hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2019 Colofn 3Ffi (£) ar ôl 30 Mehefin 2019
Ymweliad milfeddygol ychwanegol at ddiben ystyried cais am drwydded, adnewyddu trwydded yn flynyddol neu ymweliad dilynol yn sgil peidio â chydymffurfio, sy’n cynnwys hyd at 75 munud o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw. 87 173
Ymweliad milfeddygol â’r fangre drwyddedig er mwyn ystyried cais am newid gweithredol yn ystod y flwyddyn, sy’n cynnwys hyd at 75 munud o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw. 87 173
Tâl atodol am bob chwarter awr ar unrhyw ymweliad milfeddygol at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â thrwyddedu crynoadau anifeiliaid. 8 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 16 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan arolygydd milfeddygol yn teithio i’r fangre drwyddedig, neu’r fangre y bwriedir ei thrwyddedu, ac oddi yno, at ddiben gweithgareddau trwyddedu o dan Orchymyn 2010 nad ydynt wedi eu heithrio o dan y Gorchymyn hwn. 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o £126 21 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o £126