
2018 Rhif 632 (Cy. 118)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 22 Mai 2018
Yn dod i rym 30 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru, y mae’r pwerau a roddir gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 bellach wedi’u breinio ynddynt yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2018.
Diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “BPEX”;
(b) hepgorer y diffiniad o “MLCSL”; ac
(c) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “AHDB” (“AHDB”) yw y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth;”.
(3) Ym mhob man lle y mae’n ymddangos, yn lle “BPEX” rhodder “AHDB”.
(4) Ym mhob man lle y mae’n ymddangos, yn lle “MLCSL” rhodder “AHDB”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mai 2018