
2018 Rhif 612 (Cy. 117)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 33 (Capel Llanilltern), Caerdydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018
Gwnaed 17 Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Mai 2018
Yn dod i rym 18 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw gyrff cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 33 (Capel Llanilltern), Caerdydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018 a deuant i rym ar 18 Mehefin 2018.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw Traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
Gosod terfyn cyflymder
2 
Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
17 Mai 2018
YR ATODLEN
Y DARNAU O DRAFFORDD YR M4
Rheoliad 2

Y darnau a ganlyn o draffordd yr M4 wrth Gyffordd 33 (Capel Llanilltern) yn Ninas a Sir Caerdydd—
(a) y ffordd ymadael tua’r gorllewin sy’n ymestyn o bwynt 275 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â chylchfan yr A4232 Capel Llanilltern hyd at ei chyffordd â’r gylchfan honno; a
(b) y ffordd ymadael tua’r dwyrain sy’n ymestyn o bwynt 200 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â chylchfan yr A4232 Capel Llanilltern hyd at ei chyffordd â’r gylchfan honno.
