
2018 Rhif 550 (Cy. 92) (C. 44)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 3) 2018
Gwnaed 12 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 22(2) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 3) 2018.
Y diwrnod penodedig
2 
8 Mai 2018 yw’r diwrnod penodedig i baragraff 9(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 ddod i rym.
Alun Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
12 Ebrill 2018