
2018 Rhif 515 (Cy. 89)
Amaethyddiaeth, Cymru
Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018
Gwnaed 18 Ebrill 2018
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14(2) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 17(2)(c) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 i barhau i gael effaith
2 
Mae Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 i barhau mewn effaith er gwaethaf adran 14(1) o’r Ddeddf.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Ebrill 2018