
2018 Rhif 494 (Cy. 85)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 17 Ebrill 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Ebrill 2018
Coming into force 25 Mai 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 134(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal yn unol â’r adran honno o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2018 a deuant i rym ar 25 Mai 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015
2 
Yn yr ail golofn a’r drydedd golofn o Atodlen 2 (Partneriaid Arweiniol) i Reoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 yn lle “Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy” rhodder “Cyngor Sir Ddinbych”.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Ebrill 2018