
2018 Rhif 415 (Cy. 73) (C. 35)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2018
Gwnaed 22 Mawrth 218
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 124(2) a (3) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018—
(a) adran 88; a
(b) adran 89(2)(h)(ii) a (4).
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2018