
2018 Rhif 401 (Cy. 71)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 22nd Mawrth 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Mawrth 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018
2 
Ar ôl rheoliad 9 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018, mewnosoder—“
Tenantiaethau dal drosodd
9A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r hen les y cyfeirir ati ym mharagraff 8(1) o’r Atodlen wedi ei rhoi cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) mae paragraff 8(1) o’r Atodlen yn gymwys i’r hen les;
(b) mae paragraff 8(3)(b) a (4) o’r Atodlen yn cael effaith fel pe bai “sy’n dod i ben ar y dyddiad cyn y dyddiad y rhoddir y les newydd” yn cael ei roi yn lle “sy’n dod i ben ar ddiwedd y blynyddoedd dal drosodd cyfan”; ac
(c) mae’r “rhent trethadwy” sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r denantiaeth dal drosodd at ddibenion paragraff 8(3) a (5)(b) o’r Atodlen i gynnwys y swm a ystyriwyd wrth bennu’r dreth a oedd i’w chodi o dan ddarpariaethau Atodlen 5 i DC 2003 am y cyfnod hwnnw.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr Atodlen” yw Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT.”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2018