
2018 Rhif 40 (Cy. 12)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018
Gwnaed 15 Ionawr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Ionawr 2018
Yn dod i rym 6 Chwefror 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 66(1), 74A(1) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu sy’n cael ei fwydo i anifeiliaid o’r fath, mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd  ac, yn achos darpariaethau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Chwefror 2018.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a nodir yn adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel yr awdurdod sydd â’r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o’r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ddosbarth yn ôl y digwydd;
 mae i “bwyd anifeiliaid” yr ystyr a roddir i “feed” yn Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;
 ystyr “sylwedd ymbelydrol” (“radioactive substance”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o radioniwclidau nad oes modd diystyru ei actifedd neu ei grynodiad actifedd o safbwynt amddiffyn rhag ymbelydredd.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae “mewnforio” (“import”) ac “allforio” (“export”) i gael eu dehongli yn unol â’r ystyron sydd i “importation” ac “exportation” at ddibenion Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979.
Gwahardd arferion
3 
Ni chaiff neb ychwanegu sylwedd ymbelydrol yn fwriadol wrth gynhyrchu bwyd anifeiliaid.
4 
Ni chaiff neb fewnforio nac allforio unrhyw fwyd anifeiliaid y mae sylwedd ymbelydrol wedi ei ychwanegu ato’n fwriadol wrth gynhyrchu’r bwyd anifeiliaid hwnnw.
Troseddau a chosbau
5 
Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i reoliad 3 neu reoliad 4 yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na 3 mis, neu’r ddau ohonynt.
Gorfodi
6 
Dyletswydd awdurdod bwyd anifeiliaid o fewn ei ardal yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016
7 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), ar ôl y cofnod ar gyfer “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016”, mewnosoder—“
 Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018”.
Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
8 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol), ar ôl paragraff (dd), mewnosoder y paragraff a ganlyn—“
(e) Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018.”
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2018