
2018 Rhif 35 (Cy. 11) (C. 6)
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018
Gwnaed 11 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 97(2) a (3) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 2018
2 
Y dyddiad penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 25 Ionawr 2018—
(a) adran 8(4) (diffiniadau mewn perthynas â gweithgarwch safle tirlenwi);
(b) adran 20(3) i (6) (cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy);
(c) adran 21(1) i (5) a (7) (cais am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt dŵr);
(d) adrannau 24 i 26 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd, pŵer i addasu darpariaeth sy’n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd a rhyddhadau: cyffredinol);
(e) adran 29(2) a (3) (cymeradwyo adfer safle);
(f) adran 30 (adfer safle: y weithdrefn ar gyfer cymeradwyaeth);
(g) adran 31 (adfer safle: amrywio cymeradwyaeth);
(h) adran 34 (cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy);
(i) adran 35(2) i (5) (cais i fod yn gofrestredig);
(j) adran 36 (newidiadau a chywiro gwybodaeth);
(k) adran 37(5) a (6) (canslo cofrestriad);
(l) adran 38 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â chofrestru);
(m) adran 39(5) i (8) (cyfnodau cyfrifyddu);
(n) adran 40 (pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio);
(o) adran 43(2) (crynodeb treth gwarediadau tirlenwi);
(p) adran 55 (dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu);
(q) adran 57(3) (cofnodion man nad yw at ddibenion gwaredu);
(r) adran 58 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu);
(s) adran 59 (pwerau archwilio);
(t) adran 66 (cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestru);
(u) adran 67 (asesu cosb o dan adran 66);
(v) adrannau 70 i 72 (talu cosbau, gwahardd cosbi ddwywaith ac atebolrwydd cynrychiolwyr personol);
(w) Pennod 6 (achosion arbennig) o Ran 5 (darpariaeth atodol), ac eithrio adrannau 85 i 87;
(x) adran 90 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau yn Atodlen 4 y cyfeirir atynt ym mharagraff (z);
(y) Atodlen 2 (yr hyn sydd i’w gynnwys yn y gofrestr); a
(z) yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016)––
(i) paragraffau 4 i 8;
(ii) paragraff 16; a
(iii) paragraffau 18 i 20.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018
3 
Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf, i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018, i rym ar y dyddiad hwnnw.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2018