
2018 Rhif 34 (Cy. 10) (C. 5)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru
Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018
Gwnaed 11 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 81(2) a (3) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 2018
2 
Y dyddiad penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 25 Ionawr 2018—
(a) adran 76 (diwygiadau i DCRhT) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau yn Atodlen 23 y cyfeirir atynt ym mharagraff (b);
(b) yn Atodlen 23—
(i) paragraffau 35 i 38;
(ii) paragraffau 56 i 59;
(iii) paragraff 61;
(iv) paragraff 64; a
(v) paragraffau 68 i 70.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2018
3 
Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf, i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018, i rym ar y dyddiad hwnnw.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2018