
2018 Rhif 319 (Cy. 60)
Arbed Ynni, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 6 Mawrth 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mawrth 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011.
Diwygio’r prif Reoliadau
2 
Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
Diwygio rheoliad 2 (dehongli)
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “dosbarthiad ased” (“asset rating”), yn lle “Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007”, rhodder “Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012”;
(b) hepgorer y diffiniad o “cais am grant rhannol” (“partial grant application”).
Diwygio rheoliad 5 (meini prawf cymhwystra)
4 
Yn rheoliad 5 (meini prawf cymhwystra)—
(a) ym mharagraff (2)(c), yn lle “38” rhodder “54”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3A) Ni chaniateir gwneud cais gweithfeydd mewn cysylltiad ag annedd pan fo—
(a) cais gweithfeydd wedi ei wneud yn flaenorol mewn cysylltiad â’r un annedd;
(b) y cais wedi ei gymeradwyo;
(c) gwneud y gweithfeydd mewn perthynas â’r cais hwnnw wedi ei gwblhau.”;
(c) hepgorer paragraff (3).
Diwygio rheoliad 6 (y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer)
5 
Yn rheoliad 6(1) (y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer), ar ôl is-baragraff (j), mewnosoder—“
(ja) darparu bylbiau golau rhad-ar-ynni;”.
Diwygio rheoliad 7 (uchafswm y grant)
6 
Yn rheoliad 7 (uchafswm y grant)—
(a) ar ôl paragraff (2)(b) hepgorer “ac”;
(b) ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder—“
(ba) gan gyfeirio at ddosbarthiad ased annedd; a
(bb) gan gyfeirio at a yw annedd wedi ei chysylltu â’r rhwydwaith nwy ai peidio.”;
(c) hepgorer paragraff (2)(c).
Darpariaethau trosiannol
7 
Mae’r prif Reoliadau, fel y maent mewn grym yn union cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, yn parhau i fod yn gymwys ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl y dyddiad hwnnw mewn perthynas â chais gweithfeydd neu gais am grant rhannol a wnaed ac a gymeradwywyd cyn y dyddiad hwnnw.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2018