
2018 rhif 297 (Cy. 55)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 1 Mawrth 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2018 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2018.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “£44.00” rhodder “£45.00”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£190.00” rhodder “£195.00”; ac
(c) ym mharagraff (4), yn lle “£190.00” rhodder “£195.00”.
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2018