
2018 Rhif 285 (Cy. 54)
Trethi, Cymru
Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018
Gwnaed 26 Chwefror 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mawrth 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Diwygio Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015
2 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (awdurdodau llywodraeth ganolog), ar ôl “Welsh NHS Bodies” mewnosoder—“The Welsh Revenue Authority”.
Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010
3 
Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “other public authorities”, cyn “The Auditor General for Wales or Archwilydd Cyffredinol Cymru.” mewnosoder—“The Welsh Revenue Authority or Awdurdod Cyllid Cymru.”
Diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015
4 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru), mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol yn y tabl—“
Awdurdod Cyllid Cymru Cadeirydd ac aelodau a benodwyd o dan adran 3(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016”.
Diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002
5 
Mae Deddf Enillion Troseddau 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn adran 47A(2) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(b) yn adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(c) yn adran 68(3)(c) (ceisiadau ac apelau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(d) yn adran 290(4)(c) (cymeradwyaeth ymlaen llaw), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(e) yn adran 303A(1) (ymchwilwyr ariannol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(f) yn adran 352(7) (gwarantau chwilio ac ymafael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(g) yn adran 353(11) (gofynion pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(h) yn adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad atafaelu), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(i) yn adran 378(3AA)(b) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(j) yn adran 378(3B) (swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; a
(k) yn adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad gwyngalchu arian), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2018