
2018 Rhif 275 (Cy. 51)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2018
Gwnaed 27 Chwefror 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mawrth 2018
Yn dod i rym 26 Mawrth 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(e), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr offerynnau Ewropeaidd, a’r Atodiad i’r offeryn Ewropeaidd, a restrir yn rheoliad 2(4) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny a’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mawrth 2018.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfanswm y solidau llaeth” (“total milk solids”) yw holl gyfansoddion llaeth ac eithrio dŵr, gan gynnwys braster llaeth, a’r cyfansoddion ac eithrio braster llaeth sy’n
bresennol yn eu cyfrannau naturiol;
 ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw gynnyrch a bennir yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 1 (fel y’i darllenir gyda’r Nodiadau i’r Atodlen honno) sy’n barod i’w ddanfon i ddefnyddiwr olaf neu i arlwywr mawr;
 ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â’r cynnyrch hwnnw yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 1 neu unrhyw ddisgrifiad arall a ganiateir gan Atodlen 2;
 ystyr “disgrifiad neilltuedig cyfatebol Cymraeg” (“Welsh equivalent reserved description”), mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch dynodedig, yw’r disgrifiad Cymraeg mewn perthynas â’r cynnyrch hwnnw a bennir yn ail golofn y tabl yn Atodlen 1 neu’r disgrifiad Cymraeg cyfatebol a bennir yn Atodlen 2 o unrhyw ddisgrifiad arall a ganiateir gan yr Atodlen honno;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig rhywbeth i’w werthu, rhoi rhywbeth ar ddangos i’w werthu neu gael rhywbeth yn eich meddiant i’w werthu;
 ystyr “llaeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr” (“totally dehydrated milk”) yw’r cynnyrch
solet, pan na fo’r cynnwys dŵr yn fwy na 5% o’r cynnyrch gorffenedig yn ôl pwysau, a geir drwy dynnu dŵr o laeth, o laeth llwyr sgim neu o laeth rhannol sgim, o hufen neu o gymysgedd o’r cynhyrchion hynny;
 ystyr “llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol” (“partly dehydrated milk”) yw’r cynnyrch hylif, pa un a yw wedi ei felysu ai peidio, a geir drwy dynnu peth dŵr o laeth, o laeth llwyr sgim neu o laeth rhannol sgim, neu o gymysgedd o’r cynhyrchion hyn, ac mae’n cynnwys unrhyw gynnyrch yr ychwanegwyd hufen neu laeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr ato (neu’r ddau), ar yr amod nad yw’r llaeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr yn fwy, yn y cynnyrch gorffenedig, na 25% o gyfanswm y solidau llaeth.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “defnyddiwr olaf” (“final consumer”)yw unrhyw berson sy’n prynu ac eithrio—
(a) er mwyn ailwerthu;
(b) ar gyfer arlwywr mawr;
(c) ar gyfer busnes gweithgynhyrchu.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “arlwywr mawr” (“mass caterer”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu
symudol) pan fo, wrth gynnal busnes, fwyd yn cael ei baratoi i’w ddanfon i’r defnyddiwr olaf, ac yn barod i’w fwyta heb waith paratoi pellach ac, at ddibenion y diffiniad hwn, mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu drin.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at yr offerynnau Ewropeaidd a’r Atodiad a ganlyn yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny a’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—
(a) Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd;
(b) Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd;
(c) Cyfarwyddeb Gyntaf y Comisiwn 79/1067/EEC sy’n gosod dulliau’r Gymuned o ddadansoddi er mwyn profi llaeth penodol sydd wedi ei breserfio a’i ddadhydradu’n rhannol neu’n llwyr i’w fwyta neu i’w yfed gan bobl;
(d) yr Atodiad i Gyfarwyddeb Gyntaf y Comisiwn 87/524/EEC sy’n gosod dulliau’r Gymuned o samplu ar gyfer dadansoddi cemegol, er mwyn monitro cynhyrchion llaeth sydd wedi eu preserfio.
Disgrifiadau neilltuedig
3 
Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd â label, pa un a yw wedi ei gysylltu â’r deunydd lapio neu’r cynhwysydd neu wedi ei argraffu arno ai peidio, a’r label hwnnw yn dwyn arno, yn ffurfio neu’n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu ddisgrifiad neilltuedig cyfatebol Cymraeg, neu ddisgrifiad cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, tarddair o ddisgrifiad o’r fath, neu air neu ddisgrifiad sy’n sylweddol debyg iddo oni bai—
(a) bod bwyd o’r fath yn gynnyrch dynodedig y mae’r disgrifiad neilltuedig, y disgrifiad neilltuedig cyfatebol Cymraeg neu’r disgrifiad cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, yn ymwneud ag ef;
(b) bod disgrifiad, tarddair neu air o’r fath yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwnnw er mwyn dynodi’n eglur neu drwy awgrym clir nad yw’r sylwedd y mae’n ymwneud ag ef ond yn gynhwysyn yn y bwyd hwnnw; neu
(c) bod disgrifiad, tarddair neu air o’r fath yn cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwnnw er mwyn dynodi’n eglur neu drwy awgrym clir nad yw’r bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig ac nad yw’n cynnwys cynnyrch dynodedig.
Labelu a disgrifio
4 

(1) Ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai ei fod wedi ei farcio neu wedi ei labelu â’r manylion a ganlyn—
(a) ei ddisgrifiad neilltuedig,
(b) ac eithrio yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraffau 1(d) ac (g) a 2(d) yn y tabl yn Atodlen 1, canran y braster llaeth, a fynegir yn ôl pwysau mewn perthynas â’r cynnyrch gorffenedig,
(c) yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 1 yn y tabl yn Atodlen 1, canran yr echdyniad llaeth sych sy’n rhydd o fraster, a
(d) yn achos y cynhyrchion a bennir ym mharagraff 2 yn y tabl yn Atodlen 1—
(i) yr argymhellion ynghylch dull gwanhau neu ailgyfansoddi’r cynnyrch a manylion am ei gynnwys braster pan gaiff ei wanhau neu ei ailgyfansoddi, a
(ii) datganiad yn cynnwys y geiriau “not intended as a food for infants under 12 months”.
(2) Nid oes dim byd ym mharagraff (1)(a) sy’n atal defnyddio’r disgrifiad neilltuedig cyfatebol Cymraeg neu’r disgrifiad cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â’r disgrifiad neilltuedig.
(3) Nid oes dim byd ym mharagraff (1)(d)(ii) sy’n atal defnyddio’r geiriau “nid yw wedi ei fwriadu yn fwyd i fabanod o dan 12 mis oed”, neu eiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, yn ogystal â “not intended as a food for infants under 12 months”.
Dull marcio neu labelu
5 

(1) Rhaid i’r manylion y mae’n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch dynodedig â hwy yn rhinwedd rheoliad 4(1)(b) neu (c) (neu’r ddau) ymddangos wrth enw masnachol y cynnyrch.
(2) Pan fo cynhyrchion dynodedig sy’n pwyso llai nag 20 gram yr uned wedi eu pacio mewn deunydd pacio allanol, caiff y manylion sy’n ofynnol gan reoliad 4(1)(b) i (d) ymddangos ar y label neu ar y deunydd pacio allanol.
Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf
6 

(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 3 at ddibenion—
(a) galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau yn rheoliadau 3, 4, neu 5; a
(b) gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.
(2) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 3 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 y tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu cymhwyso’r Ddeddf i’r Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).
Gorfodi
7 
Dyletswydd pob awdurdod bwyd yw gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Dirymiadau
8 
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu i’r graddau a bennir—

Y Rheoliadau a ddiddymir Graddau’r dirymu
Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 Rheoliad 33(2)
Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) (Diwygio) 2008 Y Rheoliadau cyfan
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2018
ATODLEN 1
Cynhyrchion llaeth sydd wedi eu preserfio a’u dadhydradu’n rhannol neu’n llwyr a’u disgrifiad neilltuedig
Rheoliad 2(1)

Disgrifiad neilltuedig Disgrifiad neilltuedig cyfatebol Cymraeg Cynnyrch dynodedig
1. Partly dehydrated milk 1. Llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol 
Types of unsweetened condensed milk Mathau o laeth cyddwys sydd heb ei felysu 
(a) Condensed high-fat milk Llaeth cyddwys sydd â braster uchel Llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 15% o fraster ac nid llai na chyfanswm o 26.5% o solidau llaeth
(b) Condensed milk Llaeth cyddwys Llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 7.5% o fraster ac nid llai na chyfanswm o 25% o solidau llaeth
(c) Condensed partly skimmed milk Llaeth rhannol sgim cyddwys Llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai nag 1% a llai na 7.5% o fraster ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth
(d) Condensed skimmed milk Llaeth sgim cyddwys Llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy nag 1% o fraster ac nid llai na chyfanswm o 20% o solidau llaeth
Types of sweetened condensed milk Mathau o laeth cyddwys sydd wedi ei felysu 
(e) Sweetened condensed milk Llaeth cyddwys sydd wedi ei felysu Llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu siwgr claerwyn) ac sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai nag 8% o fraster ac nid llai na chyfanswm o 28% o solidau llaeth
(f) Sweetened condensed partly skimmed milk Llaeth rhannol sgim cyddwys sydd wedi ei felysu Llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu siwgr claerwyn) ac sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai nag 1% a llai nag 8% o fraster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth
(g) Sweetened condensed skimmed milk Llaeth sgim cyddwys sydd wedi ei felysu Llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol yn gymysg â swcros (siwgr lled-wyn, siwgr gwyn neu siwgr claerwyn) ac sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy nag 1% o fraster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth
2. Totally dehydrated milk 2. Llaeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr 
(a) Dried high-fat milk or high-fat milk powder Llaeth sych sydd â braster uchel neu laeth powdr sydd â braster uchel Llaeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 42% o fraster
(b) Dried whole milk or whole milk powder Llaeth cyflawn sych neu laeth powdr cyflawn Llaeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid llai na 26% a llai na 42% o fraster
(c) Dried partly skimmed milk or partly skimmed milk powder Llaeth rhannol sgim sych neu laeth powdr rhannol sgim Llaeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, mwy nag 1.5% a llai na 26% o fraster
(d) Dried skimmed milk or skimmed milk powder Llaeth sgim sych neu laeth powdr sgim Llaeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, nid mwy nag 1.5% o fraster
Nodiadau
1 
Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys—
(a) unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor; a
(b) fitaminau a mwynau yn unol â gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006.
2 
Wrth wneud unrhyw gynnyrch dynodedig y cyfeirir ato ym mharagraff 1(e), (f) neu (g) yn y tabl yn yr Atodlen hon, caniateir ychwanegu mesur ychwanegol o lactos, heb fod yn fwy na 0.03% yn ôl pwysau’r cynnyrch gorffenedig.
3 
Heb ragfarnu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid, rhaid i’r cynhyrchion dynodedig gael eu preserfio drwy’r dulliau a ganlyn—
(a) trin â gwres ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) i (d) yn y tabl yn yr Atodlen hon;
(b) ychwanegu swcros ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(e) i (g) yn y tabl yn yr Atodlen hon; ac
(c) dadhydradu ar gyfer y cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(a) i (d) yn y tabl yn yr Atodlen hon.
4 

(1) Heb ragfarnu’r gofynion cyfansoddiadol a nodir yn y tabl yn yr Atodlen hon, caniateir addasu cynnwys y protein mewn llaeth i gynnwys isafswm o 34% yn ôl pwysau (wedi ei fynegi ar fater sych sy’n rhydd o fraster) drwy ychwanegu neu dynnu’n ôl gyfansoddion llaeth (neu’r ddau) yn y fath fodd fel na newidir y gymhareb o brotein maidd i gasein yn y llaeth sy’n cael ei addasu.
(2) Mae’r deunyddiau crai a awdurdodir at ddibenion addasu protein y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fel a ganlyn—
(a) anathreiddiad llaeth, sef y cynnyrch a geir wrth grynodi protein llaeth drwy drahidlo llaeth, llaeth rhannol sgim neu laeth sgim;
(b) athreiddiad llaeth, sef y cynnyrch a geir drwy dynnu proteinau llaeth a braster llaeth o laeth, llaeth rhannol sgim neu laeth sgim drwy ei drahidlo; ac
(c) lactos, sydd yn gyfansoddyn naturiol mewn llaeth a geir fel arfer o faidd â’i gynnwys lactos anhydrus nad yw’n llai na 99.0% m/m (màs/màs) ar sail sych, ac a all fod yn anhydrus neu gynnwys un moleciwl o ddŵr crisialu neu fod yn gymysgedd o’r ddwy ffurf.
5 
Rhaid penderfynu ar y lefelau o fater sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgaredd ffosffatas yn y cynhyrchion dynodedig yn unol â’r dulliau a nodir yng Nghyfarwyddeb Gyntaf y Comisiwn 79/1067/EEC.
ATODLEN 2
Disgrifiadau eraill a ganiateir yn lle’r disgrifiadau neilltuedig a bennir yn Atodlen 1
Rheoliad 2(1)
1 

(1) Caniateir defnyddio’r term “evaporated milk” yn lle’r term “condensed milk” yn achos llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, o leiaf 9% o fraster a chyfanswm o 31% o solidau llaeth.
(2) Y term Cymraeg sy’n cyfateb i “evaporated milk” yw “llaeth anwedd”.
2 

(1) Caniateir defnyddio’r term “evaporated semi-skimmed milk” yn lle’r term “condensed partly skimmed milk” yn achos llaeth wedi ei ddadhydradu’n rhannol sy’n cynnwys, yn ôl pwysau, rhwng 4% a 4.5% o fraster ac nid llai na chyfanswm o 24% o solidau llaeth.
(2) Y term Cymraeg sy’n cyfateb i “evaporated semi-skimmed milk” yw “llaeth anwedd hanner sgim”.
3 

(1) Caniateir defnyddio’r term “semi-skimmed milk powder” neu “dried semi-skimmed milk” yn lle’r term “dried partly skimmed milk” neu “partly skimmed milk powder” yn achos llaeth wedi ei ddadhydradu’n llwyr sydd â chynnwys braster o rhwng 14% ac 16%.
(2) Y term Cymraeg sy’n cyfateb i—
(a) “semi-skimmed milk powder” yw “llaeth powdr hanner sgim”, a
(b) “dried semi-skimmed milk” yw “llaeth sych hanner sgim”.
ATODLEN 3
Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf
Rheoliad 6
RHAN 1 Addasu adran 10(1)
1 
Yn lle adran 10(1) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) rhodder—“
 If an authorised officer has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any of regulations 3, 4 or 5 of the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a) state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provisions;
(b) specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;
(c) specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d) require the person to take measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.”
RHAN 2 Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill o’r Ddeddf

Colofn 1Darpariaeth y Ddeddf Colofn 2Addasiadau
Adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.) Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.Yn is-adran (2), yn lle “This Act” rhodder “The Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.
Adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl) Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall) Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.
Adran 29 (caffael samplau) Ar ôl y geiriau “enforcement authority”, mewnosoder “, when carrying out duties under this section in relation to the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018, must exercise and perform those duties in accordance with the methods described in the Annex to First Commission Directive 87/524/EEC laying down Community methods of sampling for chemical analysis for the monitoring of preserved milk products and”.
Adran 30(8) (dadansoddi etc. samplau) Yn lle “this Act” rhodder “the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.Yn is-baragraff (a) hepgorer “under subsection (6) above”.
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion) Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.
Adran 35(1) a (2) (cosbi troseddau) Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 6(2) of, and Part 2 of Schedule 3 to, the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—“
(1A)  A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018, is liable, on summary conviction, to a fine.”Yn is-adran (2), yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 6(2) of, and Part 2 of Schedule 3 to, the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018,”.
Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol) Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018,”.
Adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018,”.
Adran 37(1), (3), (5) a (6) (apelau i lys ynadon) Yn lle is-adran (1) rhodder—“
(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of a food authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 6(1) of, and Part 1 of Schedule 3 to, the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018, may appeal to a magistrates’ court.”Yn lle is-adran (5) rhodder—“
(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought shall be—one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or the period specified in the improvement notice, whichever ends the earlier; and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.”Yn is-adran (6)—yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”, acym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.
Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) Yn lle is-adran (1) rhodder—“
(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 6(1) of, and Part 1 of Schedule 3 to, the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.”Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.
Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Condensed Milk and Dried Milk (Wales) Regulations 2018”.