
2018 Rhif 197 (Cy. 46)
Pwerau Ymchwilio, Cymru
Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) (Diwygio) (Cymru) 2018
Gwnaed 20 Chwefror 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Chwefror 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 30(1) a (6A) o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) (Diwygio) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2018.
Diwygio Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) 2010
2 
Yn Rhan 1 o’r Atodlen i Orchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Gwyliadwriaeth Gyfeiriedig a Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol) 2010 (swyddi etc. a chyfyngiadau mewn cysylltiad ag awdurdodau cyhoeddus a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf), ar ôl y cofnod ar gyfer “The Welsh Assembly Government” mewnosoder—“
The Welsh Revenue Authority Grade 7 or equivalent — Paragraphs (b) and (f)”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2018